Mae adroddiad newydd yn gwneud deuddeg o argymhellion i Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng ail gartrefi yng Nghymru a’i effaith ar gymunedau Cymraeg eu hiaith.

Cafodd yr adroddiad gan Dr Simon Brooks, Athro Cyswllt yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, ei gomisiynu gan Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg i wneud argymhellion polisi a chraffu ar faterion ehangach yn ymwneud ag ail gartrefi.

Un o brif ganfyddiadau adroddiad Ail gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru yw fod problem ail gartrefi yn ffenomen ranbarthol a lleol yn bennaf.

Mae’r patrwm rhanbarthol yn dangos bod dosbarthiad uchel iawn mewn rhai siroedd gwledig megis Sir Benfro, niferoedd lled uchel ond canrannau llai mewn rhai dinasoedd, a fawr ddim ail gartrefi o gwbl mewn rhai ardaloedd ôl-ddiwydiannol a threfol, megis Torfaen.

“Ond yn ogystal â bod yn broblem ranbarthol, gall crynoadau o ail gartrefi fod yn broblem leol oddi mewn i ranbarthau a siroedd hefyd,” eglura’r adroddiad.

“O fewn siroedd fel Gwynedd, Môn, Ceredigion a Sir Benfro, mae dosbarthiad ail gartrefi yn hynod anwastad, gyda rhai cymunedau arfordirol yn wynebu problem ddifrifol, a rhai ardaloedd trefol heb nemor ddim ail gartrefi.”

‘Nid ffenomen i Gymru gyfan’

Mae Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg a Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, wedi croesawu’r adroddiad.

“Mae’r adroddiad yn gosod allan cyd-destun polisi y drafodaeth am ail gartrefi, gan dynnu sylw at y ffaith nad yw ail gartrefi a’r materion cysylltiedig yn ffenomen i Gymru gyfan,” meddai’r gweinidogion mewn datganiad ar y cyd.

“Mae ail gartrefi yn faes cymhleth ac ni cheir un ateb penodol i’r sefyllfa. Mae’r adroddiad yn adlewyrchu’r farn honno.

“Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i ganfod datrysiadau cytbwys ac ymarferol ar gyfer y system gyfan er mwyn sicrhau bod ein pobl ifanc yn gallu parhau i fyw yn eu cymunedau lleol, yn ogystal â sicrhau eu cynaliadwyedd a’u ffyniant hirdymor.

“Ers y pandemig, rydym wedi gweld pryderon cynyddol am sut y gall nifer uchel o ail gartrefi effeithio ar rai o’n cymunedau ac yn arbennig ar gynaliadwyedd hirdymor cadarnleoedd y Gymraeg.

“Rydym yn pryderu am ddyfodol y cymunedau hyn ac yn croesawu’r ystyriaethau ieithyddol sydd yn yr adroddiad.”

Bygythiad i ddyfodol y Gymraeg

Mae Covid-19 a Brexit yn fygythiad gwirioneddol i ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol, yn ôl Simon Brooks.

“Y tebygolrwydd yw y bydd problemau strwythurol megis pobl ifanc Gymraeg yn gadael cymunedau gwledig oherwydd prinder cyfleoedd economaidd yn dwysáu,” meddai.

“Fodd bynnag, ni fydd hyn yn digwydd mewn gwagle. Oherwydd newidiadau economaidd a diwylliannol yn sgil Brexit, a hefyd yn sgil pandemig Covid-19, bydd y cymunedau hyn, sydd eisoes yn neilltuol fregus yn ieithyddol, ac a fydd oherwydd yr heriau a nodwyd yn mynd yn fwy bregus, yn wynebu cystadleuaeth ddirfawr am adnoddau yn y farchnad dai.”

Mae’n cynghori y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu comisiwn i wneud rhagor o argymhellion am ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol.

Gwynedd a Môn

Mae’r adroddiad yn cynnwys argymhelliad penodol i gynghorau Gwynedd ac Ynys Môn, gan mai’r ddwy sir hyn yw “craidd yr ardal Gymraeg lle ceir y dwysedd mwyaf o ran ail gartrefi”.

Mae ymchwil yn ddiweddar gan Gyngor Gwynedd yn dangos bod 10.76% o dai y sir yn ail gartrefi a llety gwyliau, tra bod 8.25% ym Môn.

Yn ôl yr adroddiad, dylai’r ddwy sir ehangu’r polisi ar gyfer y Farchnad Dai Leol yn eu Cynllun Datblygu Lleol er mwyn cynnwys mwy o gymunedau arfordurol bregus.

Mae’r adroddiad hefyd yn argymell y dylai cynghorau sir pryderus godi premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi i 100%, rhywbeth sydd eisoes yn cael ei ystyried gan Gyngor Gwynedd.

Argymhellion yr adroddiad:

  1. Datblygu amrywiadau rhanbarthol a lleol mewn polisi cyhoeddus
  2. Rheoli niferoedd ail gartrefi drwy osod nod o geisio sefydlogi’r niferoedd neu o ostyngiad graddol
  3. Diffinio ail gartrefi er mwyn hwyluso penderfyniadau polisi
  4. Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau mwy radical i ymateb i effeithiau anochel Brexit a Covid-19 ar y farchnad dai mewn cymunedau yr effeithir yn ddwys arnynt gan ail gartrefi
  5. Cyflwyno polisïau ar draws ystod o feysydd polisi, ac yn benodol yn y tri maes canlynol:
    • polisïau cynllunio uniongyrchol
    • polisïau cynllunio anuniongyrchol
    • polisïau trethiannol
  6. Cynghorau Sir i ddefnyddio grymoedd trethiannol yn llawn gan godi premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi i 100%
  7. Ymgynghori ynglŷn â phosibiliad i eithrio llety gwyliau tymor byr rhag bod yn gymwys ar gyfer rhyddhad trethi busnesau bach
  8. Dylai fod modd amrywio cyfraddau uwch y dreth trafodiadau tir mewn un ai siroedd neu wardiau llywodraeth leol er mwyn adlewyrchu amgylchiadau lleol
  9. Polisi ‘Tai Marchnad Lleol’ cynghorau sir Gwynedd ac Ynys Môn
  10. Diwygio Gorchymyn Gwlad a Thref a chreu dosbarth defnydd newydd ar gyfer llety gwyliau tymor byr
  11. Treialu dosbarth defnydd newydd ar gyfer ail gartrefi mewn cymuned effeithir yn ddwys arnynt gan ail gartrefi
  12. Sefydlu Comisiwn i wneud argymhellion am ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol

Cyhuddo’r Gweinidog Tai o ‘israddio’r argyfwng ail gartrefi’

“Tra roedd y Gweinidog yn ymddangos yn eithaf cydymdeimladol ar y mater, y gwir amdani yw na all eiriau clên brynu tŷ”