Mae NFU Cymru wedi croesawu adroddiad y Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth (TAC) a gafodd ei gyhoeddi’r wythnos hon.
Cafodd y comisiwn ei sefydlu y llynedd fel corff annibynnol o arbenigwyr i gynghori’r llywodraeth ar y ffordd orau o hyrwyddo buddiannau ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd a chytundebau masnach yn y dyfodol.
Mae’r adroddiad diweddaraf yn nodi egwyddorion, amcanion a strategaeth ar gyfer datblygu polisi masnach bwyd amaeth hirdymor y Deyrnas Unedig.
“Beiddgar ac uchelgeisiol”
Yn ôl Llywydd NFU Cymru, John Davies mae’r adroddiad yn nodi gweledigaeth “feiddgar ac uchelgeisiol” ar gyfer dyfodol masnachu’r Deyrnas Unedig.
“Rydym wedi dadlau ers tro pa mor bwysig yw archwilio’n briodol a cheisio cysoni y cymhlethdodau a’r tensiynau sy’n rhan annatod o bolisi masnach y llywodraeth,” meddai.
“Un sy’n ceisio rhyddfrydoli masnach a diogelu ein safonau bwyd a ffermio uchel yn ogystal â’n sector ffermio gwerthfawr yng Nghymru.
“Mae’n amlwg o’r adroddiad nad yw hi’n hawdd cael y cydbwysedd rhwng gwneud cytundebau masnach ar un llaw a diogelu ein safonau uchel o fwyd a ffermio ar y llaw arall.
“Mae’r adroddiad yn chwalu’r syniad yma ei fod yn broses hawdd, sef y neges mae ffermwyr y DU a’r cyhoedd yn eu cael llawer rhy aml.
“Mae bellach yn hanfodol bod y llywodraeth yn nodi sut y mae’n bwriadu cynnwys yr argymhellion yn yr adroddiad gyda strategaeth fasnach sy’n gweithio i ffermwyr a phobol y DU.
“Mae llawer o argymhellion yn yr adroddiad y dylai’r llywodraeth eu mabwysiadu ond wrth gwrs dim ond dechrau’r broses yw hyn.”