Mae Comisiynydd Adloniant S4C wedi dweud wrth golwg360 y bydd Cân i Gymru “hyd yn oed yn fwy cyffrous eleni”.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yng Nghanolfan y Mileniwm heno (dydd Gwener, Mawrth 5), gyda’r rhaglen yn dechrau am wyth o’r gloch.

Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris fydd yn cyflwyno’r wyth cystadleuydd sy’n mynd am y wobr o £5,000 a thlws Cân i Gymru.

Osian Williams (canwr Candelas), Angharad Jenkins (ffidlwr Calan), y gantores Tara Bethan a’r canwr-gyfansoddwr Huw Chiswell sydd ar banel y beirniaid eleni.

“Mae pob un yn cyfrannu rhywbeth gwahanol, ac mae hynny yn bwysig i ni,” meddai Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant S4C.

Er na fydd cynulleidfa yn bresennol, bydd yna gynulleidfa rithiol i’w gweld ar y sgrin, gyda phobol yn ffrydio o’u cartrefi.

“Rydan ni’n defnyddio sgrîn interactive fel sydd gan Ant and Dec ar Saturday Night Take Away,” eglura Elen Rhys.

“Bydd hynny yn ychwanegu i’r awyrgylch ac yn help i’r bobol sy’n cystadlu.

“A byddan ni’n mynd am dipyn o ymateb… mae 40 o wahanol deuluoedd a ffrindiau yn mynd i fod ar y sgrîn.”

Y “gynulleidfa ydi’r peth pwysicaf am Cân i Gymru”

Mae Elen Rhys yn dweud mai’r “gynulleidfa ydi’r peth pwysicaf am Cân i Gymru”.

“Mae o’n ddigwyddiad byw sy’n dod a phobol at ei gilydd i fwynhau a rhannu eu barn,” meddai.

Ac mae hi yn draddodiad bellach ar noson Cân i Gymru i’r Cymry fynd ar wefan Twitter i leisio barn am y cystadleuwyr.

“Mae Twitter yn mynd law yn llaw efo’r digwyddiad erbyn hyn, er nad ydi o’n rhan o’r rhaglen,” meddai Elen Rhys.

“Pawb yn rhannu eu barn, creu sŵn, mae o’n ddigwyddiad a gobeithio y byddwn ni’n trendio eto eleni.”

Ond a oes yna bryderon bod rhai yn gallu bod yn rhy gas gyda’r cystadleuwyr?

“Dw i’n meddwl ein bod ni wedi mynd drwy hynna o’r blaen, ond bod pobol yn gallach erbyn hyn ac rydan ni’n paratoi’r cystadleuwyr amdano,” meddai Elen Rhys.

“Er gwaethaf beth fydd unrhyw un yn ddweud, rydan ni’n falch iawn o’r brand a’r rhaglen.

“Rydan ni’n gwneud rhywbeth yn iawn os ydy’r rhaglen yn dal i fynd ar ôl cymaint o flynyddoedd.”

Fe gafwyd y gystadleuaeth Cân i Gymru gyntaf yn 1969.

“Llwyfan mwyaf Cymru a chystadleuaeth fwyaf S4C”

Gall y Cymry edrych ymlaen at “amrywiaeth eang o ganeuon” eleni, medd Elen Rhys.

“Roedd yna 96 wedi cystadlu, wedyn buodd y beirniaid wrthi’n gwrando ar y 96 dros ddeuddydd, cyn dewis wyth.

“Mae pobol wedi bod eisiau cystadlu, ac mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd iawn i gerddorion.

“Felly rydan ni’n hapus iawn i roi llwyfan i wahanol fandiau, a hynny ar lwyfan mwyaf Cymru a chystadleuaeth fwyaf S4C.

“Rydan ni’n hapus iawn bod yno amrywiaeth eang o ganeuon.”

Fe gewch restr lawn o’r cystadleuwyr yn y stori hon:

Cân i Gymru

Darlledu Cân i Gymru 2021 o lwyfan mwyaf Cymru

Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan y Mileniwm fydd yn llwyfannu’r digwyddiad eleni