Mae’r actor a’r canwr Ryland Teifi wedi bod yn trafod y profiad o golli ei dad, Garnon Davies, i’r coronafeirws.

Mewn rhaglen arbennig o Dechrau Canu, Dechrau Canmol ar S4C nos Sul mae’n disgrifio’r alwad ffôn ysgytwol a gafodd gan un o ddoctoriaid Ysbyty Glangwili yn dweud bod cyflwr ei dad yn dirywio.

Awgrymodd y doctor y dylai’r actor deithio o’i gartref yn Iwerddon i Gymru cyn gynted â phosib.

Ond tra’r oedd yn teithio nôl i Gymru fe gafodd neges i ddweud fod ei Dad wedi marw.

‘Golau llachar dros y môr’

“Dechreuodd pethe fis Tachwedd pan aeth Dad mewn i Ysbyty Llanymddyfri,” cofia Ryland Teifi.

“Cafodd ei drosglwyddo i Ysbyty Glangwili. Ac er ei fod yn sâl, doedd dim bygythiad i’w fywyd ar y pryd.

“Ac yna, o fewn tua pythefnos, fe gafon ni alwad ffôn i ddweud fod pethe’n dirywio.

“Dw i wedi bod ar y llong yna gymaint, yn mynd yn ôl ac ymlaen rhwng Cymru ac Iwerddon.

“Tua awr o’r porthladd, fe sylwais fod y golau yn fwy llachar na’r arfer dros y môr, ac fe ges i’r teimlad ofnadw yna fy mod i’n rhy hwyr.

“Fe ges i decst wrth Rósín, fy ngwraig yn dweud wrtha i am ffonio ar ôl cyrraedd y porthladd, ac ro’n i’n gwybod bryd hynny ei fod wedi mynd.”

Ryland Teifi yn chwarae’r gitâr yn y bennod arbennig o Dechrau Canu, Dechrau Canmol

‘Methu galaru gyda phobl eraill’

“Mae’r ffaith fod Dad wedi bod heb deulu [pan fu farw], hwnna yw’r peth anoddaf dw i’n credu, sef bod Dad wedi bod ar ben ei hun ar y diwedd,” meddai Ryland Teifi.

“Un o’r pethau anoddaf hefyd yw methu galaru gyda phobl eraill [oherwydd rheolau covid].

“Methu cofleidio, ysgwyd llaw, rhannu straeon, chwerthin a llefen.”

Roedd chwaer Ryland Teifi yn Ysbyty Glangwili yn brwydro canser ar yr un pryd ag yr oedd eu tad yno – ond er ei bod hi dan yr un to, doedd dim modd iddi fynd i weld ei thad.

Cysur cerddoriaeth

Yn ystod Dechrau Canu Dechrau Canmol nos Sul fe fydd Ryland Teifi yn cwrdd â Delun Evans, nyrs yn Ysbyty Glangwili a fu yn gofalu am ei dad yn ystod ei oriau olaf.

“Roedden ni’n gwybod pa mor bwysig oedd cerddoriaeth i dy Dad,” meddai Delun Evans wrtho ar y rhaglen.

“Ro’n i’n gwybod ei fod yn gwrando hyd yn oed os nad oedd ymateb.

“Fe fues i’n chwarae ‘Lili’r Nos’, ‘Mi Glywaf Dyner Lais’, ac roedd ‘Dros Gymru’n Gwlad’ newydd ddechre chwarae pan gymerodd ei anadl olaf.”

Fe enillodd Ryland Teifi gystadleuaeth Cân i Gymru gyda ‘Lili’r Nos’ yn 2006, sef un o’r caneuon olaf i Garnon Davies glywed.

“Ma hynna’n meddwl cymaint,” meddai Ryland Teifi wrth Delun Evans.

“Mae’r ffaith eich bod yn chwarae ei hoff ganeuon a’i fod yn gallu clywed fy llais i, yn rhoi cysur mawr.

“Alla i wir ddim a diolch digon i’r holl nyrsys fu’n gofalu amdano.”

Roedd Ryland Teifi a’i dad Garnon Davies yn aml yn perfformio a’i gilydd.

Wrth adlewyrchu ar y sefyllfa anodd o ddelio â galar yn ystod y cyfnod clo, mae Ryland Teifi yn gobeithio y bydd cymunedau yn gallu dod ynghyd i alaru gyda’i gilydd unwaith eto, ac y bydd y cyfnod yma yn cael ei goffáu.

“Rhannu stori miloedd o bobl ydw i mewn gwirionedd,” meddai.

“Un peth sy’n gyrru ni mlaen yw’r gobaith y gallwn ddod at ein gilydd.

“Dw i eisiau gweld Mam, ac erbyn hyn mae’n chwaer i’n gwella.

“Dw i’n gwybod, lle bynnag mae Dad, bydde fe’n gweud – peidiwch becso am ddim byd, joiwch a canwch!”