Mae Airbus wedi cyhoeddi na fydd unrhyw ddiswyddiadau gorfodol ar safle creu rhannau awyrennau’r cwmni ym Mrychdyn.

Y llynedd cafodd y cwmni awyrofod wared ar 1,435 o swyddi yn y ffatri, gan feio effaith ariannol pandemig y coronafeirws, gyda 400 o swyddi eraill mewn perygl yn ôl adroddiadau ym mis Tachwedd.

Ar y pryd, dywedodd y Prif Weithredwr Guillaume Faury eu bod yn wynebu’r “argyfwng dwysaf y mae’r diwydiant hwn wedi’i brofi erioed”.

Pleidleisiodd miloedd o weithwyr o blaid wythnos waith fyrrach, mewn ymdrech i achub swyddi.

“Newyddion gwych”

Cafodd y newyddion ei groesawu gan yr undeb llafur Unite, sy’n dweud ei fod yn rhyddhad enfawr i’w aelodau yn y ffatri.

Dywedodd Peter Hughes, ysgrifennydd rhanbarthol Unite Cymru: “Mae hyn yn newyddion gwych i’n haelodau yn Airbus Brychdyn yn dilyn blwyddyn gythryblus sydd wedi gweld y ffatri’n cael ei siglo gan effeithiau COVID-19.

“Mae sector awyrofod Cymru wedi bod o dan bwysau aruthrol oherwydd y dirywiad mewn archebion awyrennau yn sgil y pandemig.

“Mae’r gweithlu wedi parhau’n gryf ac yn unedig a’r newyddion heddiw, gobeithio, yw’r arwydd cyntaf bod y ffatri ar y ffordd i adferiad”.