Mae’r corff rheoleiddio Cymwysterau Cymru wedi cadarnhau y bydd graddau dros dro arholiadau TGAU a Lefel A yn cael eu cyhoeddi fis Mehefin, cyn i’r canlyniadau gael eu cyhoeddi yn swyddogol fis Awst.
Bydd diwrnodau canlyniadau yn gynt na’r arfer eleni hefyd, gyda chanlyniadau terfynol Lefel A ac AS yn cael eu cyhoeddi yn swyddogol ar Awst 10 a chanlyniadau TGAU ar Awst 12.
Ar ôl i’r Gweinidog Addysg gyhoeddi na fydd arholiadau TGAU a Safon Uwch, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ddechrau’r flwyddyn mai athrawon fydd yn pennu’r graddau eleni yn sgil y cyfyngiadau sydd wedi gorfodi disgyblion i ddysgu o bell.
Y gobaith yw y bydd cyhoeddi graddau dros dro yn rhoi cyfle i ddisgyblion apelio cyn i’r graddau terfynol gael eu cadarnhau.
Sut y bydd y broses apelio yn gweithio?
Bydd modd i ddisgyblion apelio unrhyw ganlyniadau dadleuol dair gwaith:
1. Erbyn mis Mehefin bydd ysgolion a cholegau yn rhannu graddau dros dro gyda disgyblion. Gall dysgwr ofyn i’w ysgol neu goleg adolygu graddau cyn iddyn nhw gael eu cyflwyno i fwrdd arholi CBAC.
2. Gall disgyblion hefyd apelio i CBAC ar ôl diwrnod canlyniadau ym mis Awst os yw’r radd mae eu hysgol neu goleg wedi’i rhoi iddynt yn afresymol neu os oes pryder bod gwall gweithdrefnol wedi’i wneud.
3. Ar ôl cwblhau cam dau o’r apêl, gall disgyblion ofyn am adolygiad gan Wasanaeth Adolygu Gweithdrefnau Arholiadau (EPRS) Cymwysterau Cymru i weld a yw CBAC wedi dilyn y drefn gywir.
Mae canllawiau i ysgolion a cholegau ar sut i gofnodi eu penderfyniadau hefyd wedi’u diweddaru.
Helynt graddau’r llynedd
Y llynedd cafodd bron i hanner y graddau TGAU, Lefel A a BTEC eu gostwng o ganlyniad i’r drefn a gafodd ei defnyddio i gyfrifo’r canlyniadau terfynol yn sgil y pandemig.
Yn wreiddiol cafodd fformiwla ei ddefnyddio i ddyfarnu marciau Lefel A – arweiniodd hyn at sefyllfa lle’r oedd dros 40% o raddau yn is na’r graddau oedd wedi’u cyflwyno gan athrawon.
Bu ymateb tanllyd i hyn gyda rhai disgyblion yn methu â chyrraedd eu prifysgolion delfrydol, a bu trafod mawr am sut byddai graddau TGAU yn cael eu dyfarnu.
Cyn diwrnod canlyniadau TGAU, bu yn rhaid i’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wneud tro pedol.
Penderfynodd y byddai graddau Lefel A a TGAU Cymru yn cael eu dyfarnu ar sail amcan graddau athrawon, yn hytrach na’r fformiwla gafodd ei ddefnyddio yn wreiddiol.
Cadarnhau mai ysgolion a cholegau fydd yn dyfarnu graddau disgyblion eleni
Dim arholiadau yng Nghymru y flwyddyn nesaf