Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus mae Cyngor Gwynedd wedi penderfynu cynyddu’r Premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor yn y sir i 100%.
Ers mis Ebrill 2018 mae Cyngor Gwynedd wedi codi premiwm o 50% ar ail gartrefi a thai gwyliau yno.
O’r wyth awdurdod lleol sy’n codi’r premiwm – a bennir ganddyn nhw – nid oedd yr un ohonynt cyn hyn yn codi mwy na 50%.
Er hynny, mae ymchwil diweddar gan Gabinet y Cyngor ar reoli’r defnydd o dai fel cartrefi gwyliau yn dangos fod nifer yr ail gartrefi yn parhau i gynyddu yn y sir.
Gwynedd sydd â’r ganran uchaf o ail gartrefi yng Nghymru – 10.77% o stoc dai’r sir.
Argyfwng tai
Mae sefyllfa ail gartrefi Cymru yn bwnc llosg ac mae cryn bryderon eu bod yn cael effaith ar brisiau tai mewn cymunedau Cymraeg.
Mae hynny yn ei dro, meddai ymgyrchwyr, yn arwain at Gymry ifanc yn gorfod gadael cadarnleoedd yr iaith, ac felly at ddirywiad y Gymraeg.
Y llynedd cododd cyfartaledd pris tŷ yng Nghymru 8.2%, y cynnydd uchaf mewn 15 mlynedd. Y pris cyfartalog erbyn hyn yw £209,723, y tro cyntaf erioed i’r pris cyfartalog fod dros £200,000.
Ac mae data tai Cyngor Gwynedd yn wynebu argyfwng tai a bod 59% o bobol y sir yn methu fforddio prynu tai yno.
Roedd cynyddu’r dreth yn un o’r awgrymiadau gynigwyd gan Dr Simon Brooks yn ei adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i wneud argymhellion polisi a chraffu ar faterion ehangach yn ymwneud ag ail gartrefi.
Ond er i gyfarfod llawn Cyngor Gwynedd bleidleisio o blaid cynyddu’r dreth ddydd Iau, Mawrth 4, roedd peth wrthwynebiad i’r cynnig.
Pleidleisiodd 38 o blaid y cynnig gwreiddiol ac 16 yn erbyn.
Un o’r rheini yn erbyn y cynnig oedd Sion Jones, Cynghorydd Llafur Bethel.
Cyflwynodd y cynghorydd welliant i geisio cadw’r premiwm yn 50%, ond gwrthodwyd ei gynnig.
Yn ddiweddarach disgrifiodd y penderfyniad fel “camgymeriad” a dywedodd y byddai’r cyngor yn “cyfri eu colledion ac yn gorfod codi Treth y Cyngor ar bobol gyffredin oherwydd y polisi” y flwyddyn nesaf.
There will also be a large number of properties being put for sale, out of the price range of locals, being purchased by people out of the area and flipped to non domestic, again paying nothing. (2/3)
— Sion Jones (@CyngBethel) March 4, 2021
Cyhoeddi argymhellion i fynd i’r afael â’r argyfwng ail gartrefi
Ymgynghoriad i gynyddu treth ail gartrefi i hyd at 100% yng Ngwynedd yn dod i ben
Cwpwl yn ymateb i feirniadaeth am gynnig tŷ fel gwobr raffl