Bydd Adam Price AoS, Arweinydd Plaid Cymru, yn annerch Cynhadledd Wanwyn rhithiol ei blaid heddiw (dydd Gwener 5 Mawrth), gan addo “gwella clwyfau dyfnach ein cenedl” gyda rhaglen lywodraethol ôl-Covid.

Mae disgwyl iddo ddweud y byddai Llywodraeth Plaid Cymru, pe bai’n cael ei hethol ar Fai 6, yn rhoi polisïau ar waith i fynd i’r afael â thlodi plant a’r argyfwng tai.

Byddai’r blaid yn cyflawni hyn gan fuddsoddi i adeiladu’r Gwasanaethau Iechyd a gofal cymdeithasol, gyda mwy o staff ar gyflogau gwell, a gofal cymdeithasol am ddim i bawb sydd ei angen, yn ôl Adam Price.

Ymysg y polisïau allweddol eraill y mae disgwyl iddo gyhoeddi, mae darparu gofal plant am ddim i bawb o 24 mis oed, a thorri treth gyngor ar gyfer miloedd o deuluoedd.

Wrth annerch ail gynhadledd rithiol y blaid yn ystod y pandemig, bydd Adam Price yn dweud: “Y tu ôl i’r ffigurau dyddiol yn y penawdau dros y deuddeg mis diwethaf, mae trasiedïau dynol unigol.

“Ond mae graddfa ein dioddefaint yn tynnu sylw at wirionedd cyfunol dyfnach.

“Nid dyma yw’r wlad y dylem fod. Nid dyma yw’r wlad y gallwn fod. Ac nid dyma yw’r wlad rydyn ni am fod.

“Mae’r ystadegau’n adrodd y stori. Mae 70,000 o blant mewn tlodi yng Nghymru sy’ ddim yn gymwys am brydau ysgol am ddim. 67,000 o deuluoedd ar restrau aros am dai.

“Mae dros hanner ein gweithwyr gofal yn cael eu talu llai na’r Cyflog Byw Go Iawn.

“Gadewch i hon fod y flwyddyn pan fyddwn yn dweud dim mwy. Dim mwy o blant yn mynd heb fwyd. Dim mwy o ddigartrefedd ac argyfwng tai. Dim mwy o gyflogau isel.

“Felly wrth i ni gyd, yn unedig gyda’n gilydd, dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf dorchi ein llewys i dderbyn ein brechlynnau, gadewch inni hefyd ymrwymo i wneud y gwaith sydd angen i ni ei wneud i wella clwyfau dyfnach y genedl hon.

“Gadewch i ni ofyn i’n hunain ‘Pan fydd hyn i gyd drosodd, sut ydyn ni am i’n byd a’n Cymru fod yn wahanol?’”

“Nid yw Prydain yn gweithio i ni bellach”

Wrth siarad yn yr un wythnos ag y dangosodd arolwg barn ITV y gefnogaeth uchaf i annibyniaeth Cymru a gofnodwyd erioed gyda 39% o’r rhai y gofynnwyd iddynt yn ymateb drwy ddweud y byddent o blaid ‘Ie’ mewn refferendwm, bydd Adam Price yn ychwanegu:

“Nid yw Prydain yn gweithio i ni bellach – nid yw cenhedlaeth Prydain fy rhieni, lle dewr a gobeithiol, yn bodoli mwyach, mae wedi’i diddymu ac, yn ei lle, mae gennym y gwactod moesol hwn yn San Steffan.

“Rydyn ni’n genedl sy’n gwerthfawrogi, yn anad dim, garedigrwydd, empathi a chydweithrediad sydd yn rhan o’n system wleidyddol sy’n gynyddol seiliedig ar hunanoldeb a thrachwant.

“Mae’r pandemig wedi datgelu realiti Prydain fodern: gwladwriaeth a ddiffinnir gan dlodi eithafol, a reolir gan elit llygredig sy’n rhoi contractau i’w ffrindiau ac yn gwadu ei chymdogion.

“Ni all y dyfodol fod fel y gorffennol. Ac ni fydd e os benderfynwn ein dyfodol ein hunain.

“Nid y tlodi rydyn ni’n ei weld o’n cwmpas fel cenedl yw ein tynged. Ond mae’n foment o wirionedd i ni.

“Drwy ymafael yn y foment honno bydd dim byd sy’n amhosib.”

“Trawsnewid” iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru

Wrth siarad cyn y gynhadledd, dywedodd Rhun ap Iorwerth, y bydd Plaid Cymru yn “trawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru”

Dywedodd y byddai’r blaid yn ymrwymo i adeiladu gwasanaeth iechyd a gofal cenedlaethol “cadarn” a “gwydn” – gan gychwyn ar hyfforddi a recriwtio 1,000 o ddoctoriaid a 5,000 o nyrsys newydd a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill.

Addawodd, hefyd, ffocws “fel erioed o’r blaen” ar fesurau ataliol i wneud Cymru yn genedl iachach.

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi amlygu problemau a oedd eisoes yn cael eu teimlo’n ddwfn o fewn iechyd a gofal gydag amseroedd aros, sydd eisoes yn rhy hir, bellach yn tyfu i lefelau hyd yn oed yn fwy brawychus,” meddai.

“Os ydym wirioneddol am daclo’r materion cronig sy’n trafferthu ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol – rhestrau aros hir, y pwysau ar weithwyr iechyd a gofal, oedi mewn triniaeth a diagnosis, ac i sicrhau bod ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gwella o’r pandemig yna mae’n rhaid i ni adeiladu gwasanaeth iechyd a gofal mwy gwydn a chadarn.

“Mae hyn yn dechrau gydag adeiladu gweithlu mwy gwydn ac i fynd i’r afael â materion cronig y gweithlu, bydd Plaid Cymru yn dechrau ar hyfforddi a recriwtio 1,000 o feddygon ychwanegol a 5,000 o nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill.

“Mae ein huchelgeisiau i drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol yn uchelgeisiau sy’n adlewyrchu anghenion a dyheadau’r gweithlu yn ogystal â chleifion.

“Rydym yn bwriadu cyflwyno cynllun i wneud Cymru yn fwy gwydn a chynaliadwy, gan ganolbwyntio ar yr ataliol a chreu cenedl fwy iach ym mhob ystyr.”

Bydd Cynhadledd y Gwanwyn Plaid Cymru’n digwydd yn rhithiol y penwythnos hwn 4-6 Mawrth.