Fe allai pobl allu ymweld â chartrefi gofal unwaith eto o Fawrth 13, meddai’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan AS.

Y bwriad, meddai, yw caniatáu i un ymwelydd penodedig gael ymweld â chartref gofal dan do yn rheolaidd o 13 Mawrth ymlaen, fel rhan o’r pecyn o fesurau ehangach sy’n cael eu hystyried ar gyfer yr adolygiad tair wythnos.

Dywedodd bod y pandemig wedi cael “effaith anferth ar fywydau pob un ohonom – ond yn arbennig ar bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal a’u teuluoedd.”

“Dros y pythefnos diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, awdurdodau lleol, cynrychiolwyr darparwyr cartrefi gofal ac aelodau o’n grŵp rhanddeiliaid ar ymweliadau cartrefi gofal i ystyried sut y gallwn weithredu dull seiliedig ar risg er mwyn galluogi ymweliadau â chartrefi gofal i gael eu cynnal unwaith eto, lle y mae’n ddiogel gwneud hynny.”

Mae nifer y cartrefi gofal sy’n adrodd bod ganddyn nhw achosion o Covid-19 hefyd yn gostwng, meddai, yn ôl gwybodaeth gan Arolygiaeth Gofal Cymru, a “nifer anghredadwy o uchel o breswylwyr cartrefi gofal wedi cael eu brechu – mae mwy na 94% o breswylwyr wedi cael y dos cyntaf, a 84% o staff cartrefi gofal,” ychwanegodd Julie Morgan.

“Taro cydbwysedd”

Ychwanegodd bod darparwyr cartrefi gofal wedi ymdrechu i gadw cysylltiad rhwng eu preswylwyr a’u teuluoedd drwy gydol y pandemig, gan weithredu o fewn y cyfyngiadau oedd mewn grym.

“Nid yw hyn wedi bod yn hawdd, ac rwy’n canmol eu gwaith caled a’u harloesedd,” dywedodd Julie Morgan, gan ychwanegu ei fod yn “un o’r meysydd anoddaf o ran ceisio taro cydbwysedd rhwng diogelu iechyd corfforol pobl a’u lles emosiynol.”

Er mwyn helpu cartrefi gofal i allu cynnal ymweliadau a chyswllt cymdeithasol rhwng preswylwyr a’u perthnasau, fe fydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Age Cymru i dreialu dull o ddatblygu gwirfoddoli mewn cartrefi gofal.

“Mae pob un ohonom wedi gweld bod gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hanfodol yn yr ymateb i’r pandemig, ac rwy’n awyddus i fanteisio i’r eithaf ar hyn,” meddai Julie Morgan.