Mae’r “undeb, fel y mae hi, wedi dod i ben”, ac felly rhaid newid strwythur y Deyrnas Unedig, yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Gerbron Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan brynhawn heddiw mi rannodd Mark Drakeford ei deimladau am ddyfodol yr undeb.

Cafodd ei ymddangosiad rhithwir ei ddarlledu o adeilad allanol ar waelod ei ardd yng Nghaerdydd, lle dywedwyd ei fod yn hunanynysu “fel rhagofal” ar ôl dod i gysylltiad â rhywun sedd wedi profi’n bositif am coronafeirws.

Yn ystod y sesiwn, tynnwyd sylw’r Prif Weinidog at arolwg barn diweddar am gefnogaeth i annibyniaeth i Gymru, ac yn ymateb i hynny mi amlinellodd ei weledigaeth yntau.

“Dw i’n credu bod y pandemig, a’r deuddeg mis diwethaf, wedi pegynu barn yng Nghymru ynghylch sut y dylai gael ei llywodraethu,” meddai.

“Mae’n rhaid i ni – a dyfynnu’r Aelod Ceidwadol o’r Senedd, David Melding – gydnabod bod yr undeb, fel y mae hi, wedi dod i ben. Rhaid i ni greu undeb newydd.

“Rhaid i ni ddangos i bobol ein bod ni’n medru ail-lunio’r Deyrnas Unedig mewn ffordd sydd yn cydnabod mai cymdeithas wirfoddol o bedair cenedl yw hi.

“Oddi fewn i’r gymdeithas yna mae sofraniaeth yn cael ei chronni at yr un diben, ac er budd pawb.”

Nid dyma’r tro cyntaf i’r Prif Weinidog alw am y fath newid. Mae wedi gwneud hynny droeon dros yr wythnosau diwethaf.

“Syniad segur”

Disgrifiodd Mr Drakeford sofraniaeth senedd y Deyrnas Unedig fel “syniad segur” ac y dylid ail-lunio’r undeb i weithio fel yr Undeb Ewropeaidd, yr Unol Daleithiau neu Awstralia.

“Dim ond mewn un lle y cynhelir sofraniaeth a chaiff ei dosbarthu i leoedd eraill – ond ar ddarn o linyn bob amser fel y gellir ei thynnu’n ôl i’r canol ar unrhyw adeg pan fo’r canol angen hynny – rwy’n credu bod hynny ar ben,” meddai.

“Byddai’r Undeb Ewropeaidd yn enghraifft o bosibl, ond mae Canada, neu Awstralia, neu’r Unol Daleithiau, yn enghreifftiau o’r hyn y soniais amdano – lle mae sofraniaeth wedi’i gwasgaru ymhlith y cydrannau ac wedyn wedi’i gyfuno’n ôl gyda’i gilydd eto at y dibenion canolog hynny.”

Prydain “ad-hoc” a’r berthynas â Johnson

Dywedodd Mr Drakeford nad yw’r ffordd “ar hap” y mae Llywodraeth y DU yn ymgysylltu â gweinyddiaethau datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon “yn sail foddhaol i gynnal dyfodol y Deyrnas Unedig”.

“Does dim pensaernïaeth sefydliadol i wneud i’r Deyrnas Unedig weithio,” meddai.

“Mae’r cyfan yn ad-hoc, ar hap, yn cael ei ddyfeisio wrth i ni fynd. Ac mae arnaf ofn nad yw hynny’n sail foddhaol i gynnal dyfodol y Deyrnas Unedig.”

Disgrifiodd Mr Drakeford ei berthynas â’r Prif Weinidog fel un “bell”.

“Dim ond unwaith fy hun yr wyf wedi cyfarfod ag ef – rwyf wedi bod mewn nifer o gyfarfodydd lle bu nifer fawr o bobl eraill yn bresennol – ac nid yw eto wedi galw cyfarfod o Gyd-bwyllgor Gweinidogol y prif weinidogion ac ef ei hun,” meddai.

Ac wrth droi’n ôl at ddyfodol yr undeb, dywedodd: “Byddwn i’n dweud fy mod wedi cael lefel fach iawn o gyswllt â’r Prif Weinidog. Ac nid dim ond yn y ffordd honno y mae’r pellter – mae arnaf ofn mai anaml y cawn ‘gyfarfod o feddyliau’.”

“Ac os oes gen i bryder am y diffyg ymgysylltu rheolaidd rhwng y Prif Weinidog a rhannau eraill o’r Dyernas Unedig – mae oherwydd fy mod yn meddwl, heb hynny, yna mae dyfodol y DU yn mynd yn anoddach.

“Heb i’r Prif Weinidog chwarae ei ran yn hynny i gyd, rwy’n credu ei fod yn tanseilio ymdrechion y rheini ohonom – ac rwy’n cynnwys fy hun yn sicr yn hyn o beth – sydd am grefftu dyfodol llwyddiannus i’r Deyrnas Unedig.”

Drakeford y cenedlaetholwr?!

Wrth annerch cynhadledd Llafur Cymru’r wythnos ddiwethaf, mi alwodd Mark Drakeford am i “home rule” i Gymru “oddi fewn i Deyrnas Unedig lwyddiannus”.

Mae’r sylw wedi digio rhai undebwyr am fod y term fel arfer yn cael ei gysylltu â chenedlaetholdeb.

Wrth ateb cwestiwn am y term brynhawn heddiw, eglurodd y Prif Weinidog ei fod yn galw am ddatganoli cryfach, a strwythur datganoledig na ellir ei danseilio.

Wrth drafod hyn, cyfeiriodd at y ffordd y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn wedi disodli Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd drwy ddyrannu cyllid yn uniongyrchol yng Nghymru ar faterion datganoledig drwy’r Gronfa Ffyniant a Rennir, yn ogystal â Bil y Farchnad Fewnol.

“Hunanlywodraeth yn yr ystyr na fyddai modd ymyrryd â’r pwerau sydd gennym, a’r setliad datganoli rydym yn ei ddatblygu,” meddai.

“Ac ymyrryd yn y ffordd yr ydym wedi ei weld yn glir dros y misoedd diwethaf.”

“Ac yna set o drefniadau sefydliadol rhwng pedair cenedl a fyddai’n caniatáu i bob un genedl gyfrannu mewn ffordd bositif at lwyddiant y Deyrnas Unedig.”

Llacio rheolau cyn Lloegr?

Yn ystod y sesiwn, rhoddodd rywfaint o sylw i’r pandemig.

Yn benodol, dywedodd ei fod yn bosib y gall “peth gweithgarwch economaidd” gael ei adfer yn gynt yng Nghymru nag yn Lloegr.

Ddiwedd mis diwetha’ mi gyhoeddodd Boris Johnson ei gynlluniau ar gyfer llacio cyfyngiadau yn Lloegr – cynllun sydd a sawl cam yn arwain at yr haf.

Roedd rhywfaint o feirniadaeth o Lywodraeth Cymru ar y pryd am ei bod wedi cynnig llai o syniad o’i gweledigaeth at y dyfodol.

Mae yna ganfyddiad bod y Llywodraeth yng Nghymru yn fwy gofalus, ac felly yn arafach wrth lacio rheolau.

Ond yn y sesiwn wnaeth Mark Drakeford awgrymu y gallai pethau ddigwydd yn gynt yng Nghymru. Daeth hyn wrth iddo dderbyn y dylai ymateb y pedair llywodraeth fod yn “lled-debyg”.

“Dyw ymateb lled-debyg ddim yn golygu bod yn rhaid gwneud pob dim yr un peth,” meddai.

“Dw i’n credu bydd yna gyfleoedd – gan fod cyfraddau yng Nghymru yn sylweddol is nag yn Lloegr – lle efallai y gallwn adfer peth gweithgarwch economaidd yn gynt nag mae cynlluniau’r Prif Weinidog [yn Llundain] yn awgrymu ar hyn o bryd.

“Buaswn i ddim eisiau amddifadu busnesau Cymru o’r cyfle i ddychwelyd at fasnachu jest am ein bod yn aros i rywun arall gyrraedd sefyllfa yr ydym eisoes wedi ei chyrraedd.”