Yr wythnos hon bu’n rhaid i Lywodraeth Prydain amddiffyn ei phenderfyniad, a wnaed ar ei liwt ei hun, i barhau â chyfnodau gras ffin Môr Iwerddon tan fis Hydref.

Roedd y cyntaf o’r cynlluniau rheoleiddio ar nwyddau o Brydain i Ogledd Iwerddon i fod i ddod i ben ddiwedd mis Mawrth.

Byddai archfarchnadoedd wedi gorfod cael tystysgrifau allforio ar gyfer pob cludiant o gynhyrchion anifeiliaid – gan fod Gogledd Iwerddon yn rhan o farchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd.

Ond gwnaeth Llywodraeth Prydain benderfyniad unochrog i barhau â’r cyfnodau gras.

Dywedodd yr aelod o’r Cabinet, yr Arglwydd David Frost, y dylai’r penderfyniad hwnnw ganiatáu amser ar gyfer trafodaethau adeiladol gyda Brwsel.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: “Esboniodd yr Arglwydd Frost fod y mesurau a gyhoeddwyd … yn dilyn hysbysiad swyddogol i’r Comisiwn yn gynharach yr wythnos hon, yn gamau technegol dros dro, a oedd yn parhau mesurau eisoes ar waith … i roi mwy o amser i fusnesau fel archfarchnadoedd a dosbarthwyr parseli addasu i’r gofynion newydd yn y Protocol a’u rhoi ar waith.”

Fe wnaeth y cyn-drafodwr Brexit, sy’n gyfrifol am ffurfio perthynas newydd y Deyrnas Unedig gyda’r Undeb Ewropeaidd, siarad ag is-lywydd y Comisiwn Maros Sefcovic ddydd Mercher (3 Mawrth).

“Pryderon cryf”

Dywedodd datganiad gan y comisiwn ar ran Mr Sefcovic: “Yn dilyn datganiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig heddiw, mae’r is-lywydd Sefcovic wedi mynegi pryderon cryf yr Undeb Ewropeaidd ynghylch gweithredu unochrog y Deyrnas Unedig, gan fod hyn yn gyfystyr â thorri darpariaethau sylweddol perthnasol y protocol ar Iwerddon/Gogledd Iwerddon a’r rhwymedigaeth ddidwyll o dan y Cytundeb Ymadael.

“Dyma’r eildro i Lywodraeth y DU fynd ati i dorri cyfraith ryngwladol.

“Mae hyn hefyd yn gwyro’n glir oddi wrth y dull adeiladol sydd wedi bodoli hyd yn hyn, gan danseilio gwaith y Cydbwyllgor a’r ymddiriedaeth gydfuddiannol sy’n angenrheidiol ar gyfer cydweithredu.”

Nod y protocol yw atal gosod ffin galed ar ynys Iwerddon drwy gadw Gogledd Iwerddon yn destun rheolau masnach yr Undeb Ewropeaidd.

Mae wedi amharu ar rai nwyddau sy’n teithio o weddill y Deyrnas Unedig ar ôl i gyflenwyr wynebu gwaith papur ychwanegol.

“Hynod ddi-fudd”

Fe wnaeth Llywodraeth Iwerddon hefyd alw penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “hynod ddi-fudd”.

Dywedodd Gweinidog Materion Tramor Iwerddon, Simon Coveney, fod yr Undeb Ewropeaidd yn trafod gyda phartner “na all ymddiried ynddo”.

Disgrifiodd Simon Coveney benderfyniad unochrog Llywodraeth y DU fel un “rhwystredig iawn”.

Wrth siarad ar RTE Radio 1, dywedodd Mr Coveney fod Llywodraeth Prydain yn torri Protocol Gogledd Iwerddon a’i hymrwymiadau ei hun.

“Nid dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd, eu bod [hynny yw, yr Undeb Ewropeaidd] yn trafod gyda phartner na allant ymddiried ynddo,” meddai.

“Dyna pam mae’r Undeb Ewropeaidd bellach yn edrych ar opsiynau cyfreithiol a chamau cyfreithiol sydd i bob pwrpas yn golygu proses negodi llawer mwy ffurfiol ac anhyblyg yn hytrach na phroses o bartneriaeth lle rydych yn ceisio datrys problemau gyda’ch gilydd, felly mae hyn yn annymunol iawn.

“Llywodraeth Prydain sy’n torri’r protocol yn ei hanfod, gan dorri ei hymrwymiadau ei hun eto, ac yna mae’n rhaid i’r Undeb Ewropeaidd ystyried sut maen nhw’n ymateb i hynny.”

“Maen nhw [Llywodraeth Prydain] wedi penderfynu gweithredu’n unochrog, sy’n amlwg yn torri’r protocol a’r ymrwymiadau sydd wedi eu gwneud ychydig wythnosau’n ôl,” meddai.

Dywedodd Mr Coveney ei fod wedi cael sgwrs “ddi-flewyn-ar-dafod” gyda’r Arglwydd Frost ac Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Brandon Lewis, ddydd Mercher ar ôl dysgu am weithredoedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’u “cynghori’n gryf i beidio â wneud hynny”.

“Cyn i’r Arglwydd Frost hyd yn oed siarad yn fanwl â Maros Sefcovic yn ei rôl newydd, cyhoeddwyd hyn mewn datganiadau ysgrifenedig gan Lywodraeth Prydain yn San Steffan,” meddai.

“Byddai dweud bod hynny’n amharchus yn danddatganiad.”

Dywedodd Mr Coveney nad yw’n ffafrio camau cyfreithiol dros y mater ond nad yw’r Deyrnas Unedig wedi gadael unrhyw ddewis i’r Undeb Ewropeaidd.

“Rwy’n ffafrio ymgysylltu, ac ymgysylltu ar sail ymddiriedaeth rhwng y ddwy ochr, ond os na ellir ymddiried yn y Deyrnas Unedig, oherwydd eu bod yn cymryd camau unochrog mewn ffordd annisgwyl heb negodi, wel wedyn, mae Llywodraeth Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb unrhyw ddewis,” meddai.

“Nid dyma lle rydyn ni eisiau bod ond dyma lle mae Llywodraeth Prydain yn ein gyrru.”

“Synnwyr cyffredin”

Mae Prif Weinidog Prydain wedi mynnu y bydd “ewyllys da a synnwyr cyffredin” yn darparu datrysiad.

Dywedodd Boris Johnson ei bod “yn amlwg y gellir datrys” y problemau gyda Phrotocol Gogledd Iwerddon – a hynny yng nghanol cynnydd pellach yn y tensiynau gwleidyddol a chymdeithasol.

Ychwanegodd y Prif Weinidog: “Ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod yn cymryd rhai mesurau dros dro a thechnegol i sicrhau nad oes rhwystrau ym Môr Iwerddon, i sicrhau bod pethau’n llifo’n rhydd rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, a dyna beth fyddech chi’n ei ddisgwyl.

“Yn amlwg, mae’r rhain yn faterion ar gyfer trafodaethau dwys parhaus gyda’n ffrindiau.

“Rwy’n siŵr gydag ychydig o ewyllys da a synnwyr cyffredin y gellir datrys yr holl broblemau technegol hyn.”

Baich biwrocratiaeth

Ddydd Iau, dywedodd prif filfeddyg Gogledd Iwerddon, Dr Robert Huey wrth aelodau Cynulliad Gogledd Iwerddon y gallai ei filfeddygon orfod cynnal yr un nifer o wiriadau bwyd-amaeth â’r Undeb Ewropeaidd gyfan pan ddaw’r cyfnod gras i ben yn y pen draw.

“Rwyf wedi siarad am hyn â’r Comisiwn [Ewropeaidd] – yn gwbl dechnegol, nid gwleidyddol – [a dweud] ‘dyma’r hyn y gofynnir i mi ei wneud gan Brotocol Gogledd Iwerddon gyda’m 12 milfeddyg ar hyn o bryd, nid yw hynny’n mynd i weithio’,” meddai wrth bwyllgor amaethyddol Stormont.

Hefyd, yr wythnos diwethaf, ataliodd Gweinidog Amaeth Gogledd Iwerddon, Gordon Lyons, waith paratoi ar gyfer adeiladu archwiliadfeydd masnach parhaol o ym porthladdoedd y rhanbarth.

Nid oedd y cam hwnnw, y mae cyd-Aelodau Gweithredol wedi anghytuno â’i gyfreithlondeb, yn effeithio ar wiriadau parhaus gan fod y rheini’n digwydd mewn cyfleusterau porthladd dros dro.

Paramilwriaethau

Yn ogystal, mae paramilwriaethau undebol yng Ngogledd Iwerddon wedi tynnu eu cefnogaeth i gytundeb heddwch hanesyddol Dydd Gwener y Groglith yn ôl mewn protest yn erbyn trefniadau y maent yn dweud sydd wedi gyrru hollt economaidd rhwng y rhanbarth a gweddill y Deyrnas Unedig.

Cafodd eu safbwynt ei gyfleu mewn llythyr, yn enw’r Loyalist Communities Council (LCC), at Mr Johnson a’r Taoiseach, Micheal Martin.

Pan ofynnwyd iddo am lythyr yr LCC, grŵp ymbarél sy’n cynrychioli tri grŵp parafilwrol a oedd wedi’u gwahardd, nododd Mr Johnson nad oedd wedi gweld yr ohebiaeth.

Mae’r LCC yn cynrychioli Llu Gwirfoddolwyr Ulster, Cymdeithas Amddiffyn Ulster a Commando’r Llaw Goch, a oedd yn gyfrifol am lawer o farwolaethau yn ystod 30 mlynedd o wrthdaro.

Dywedodd y paramilwriaethau eu bod yn tynnu yn ôl, dros dro, eu cefnogaeth i gytundeb Dydd Gwener y Groglith 1998 oherwydd pryderon cynyddol am y protocol.

Pwysleisiodd arweinyddiaeth yr LCC y dylai gwrthwynebiad unoliaethol i’r protocol barhau’n “heddychlon a democrataidd”.

Mae’r llythyr yn rhybuddio bod y protocol yn tanseilio’r “sail cytundeb y Combined Loyalist Military Command i gadoediad yn 1994 a’r gefnogaeth ddilynol i Gytundeb Belfast” [sef Cytundeb Dydd Gwener y Groglith].

Wrth sôn am lythyr yr LCC, dywedodd Prif Gwnstabl Gogledd Iwerddon, Simon Byrne, nad yw’n credu bod y paramilwriaethau yn debygol o ddychwelyd i drais.

“Ein hasesiad cychwynnol yw bod hwn yn gam gwleidyddol,” meddai wrth Fwrdd Plismona Gogledd Iwerddon ddydd Iau.

Mae Mr Byrne wedi rhybuddio o’r blaen am yr awyrgylch yn poethi, ac wedi annog pobl i gamu’n ôl o drais.

Tynnwyd staff arolygu mewn porthladdoedd yn oddi ar eu dyletswyddau dros dro yn gynharach eleni mewn ymateb i graffiti cas – ond yn ddiweddarach fe wnaethant ailddechrau eu gwaith ar ôl i’r heddlu fynnu nad oedd bygythiad credadwy yn eu herbyn.