Mae Laura McAllister yn credu bod y FIFA fodern y mae’n gobeithio ei wasanaethu i’r gwrthwyneb llwyr i’r sefydliad llygredig a fu.
Mae cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ymgeisio i fod yn gynrychiolydd benywaidd UEFA ar Gyngor FIFA.
Pe bai’n cael ei phenodi, hi fyddai’r aelod benywaidd cyntaf ar Gyngor FIFA sydd hefyd wedi chwarae’r gêm ar lefel ryngwladol.
Enillodd 24 o gapiau rhwng 1994 a 2001, ac mae hefyd yn gyn-Gapten ar Gymru.
Mae’n hyderus fod pethau wedi newid sgandalau llwgrwobrwyo a ddirywiodd enw da y corff pêl droed dros y degawd diwethaf.
“Dw i wedi siarad â Gianni Infantino [Llywydd FIFA] fel rhan o’m hymgyrch ac mae’r hyn rwy’n ei glywed ganddo wedi creu argraff arnaf,” meddai Laura McAllister.
“Mae’n siarad yn agored ac yn adeiladol am ddiwygiadau llywodraethu, mae’n teimlo’n gryf iawn dros gêm y menywod ac rwy’n gwybod ei fod wedi siarad nid yn unig am roi mwy o arian i mewn i’r gêm ond rhoi statws a phroffil uwch i bêl-droed menywod.”
Ar hyn o bryd mae Laura McAllister yn gweithio fel Athro Polisi Cyhoeddus yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr ac Is-gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru ers dros 12 mlynedd.
Ers 2016 mae hefyd wedi bod yn ddirprwy gadeirydd Pwyllgor Pêl-droed Menywod UEFA.
Cyn hynny bu’n Gadeirydd Chwaraeon Cymru rhwng 2010 a 2016 ac mae hefyd wedi bod yn aelod o fwrdd UK Sport.
‘Meithrin gêm y menywod’
“Mae angen i ni feithrin gêm y menywod, a gêm y dynion, yn y gwledydd llai yn ogystal â’r rhai mawr,” meddai.
“Ar hyn o bryd mae yna wledydd yn UEFA sydd heb dîm A i fenywod … a chryn dipyn nad oes ganddynt yr adnoddau i fynd i mewn i rai adrannau dan 19 oed a dan 17 oed, felly mae’n rhaid i ni gael y llwybr yn iawn.
“Fel y dywedodd Aleksander Ceferin [cyn-lywydd UEFA] , mae’n ymwneud â chydbwysedd cystadleuol ac nid yw’n dda bod y gwledydd mawr yn rhedeg i ffwrdd ar y blaen.
“Rwy’n dal i fod mewn cysylltiad â’r WSL [Women’s Super League] a chwaraewyr rhyngwladol, ac mae gennyf ddiddordeb mewn clywed ganddynt am safon yr hyfforddi, safon y cyfleusterau, seilwaith, hawliau teledu, contractau, cymorth, tâl mamolaeth, yr holl faterion allweddol hyn.
“Pe byddwn i’n cael fy ethol, byddai ganddyn nhw rywun a fyddai’n cynrychioli eu diddordebau pan fyddai’r sgyrsiau hyn yn digwydd.
“Mae hynny’n hollbwysig – does dim pwynt cael menywod ar uwch gyrff mewn chwaraeon os nad ydyn nhw wedi’u cysylltu â’r gêm a ddim yn deall y gêm.”
Arweinydd benywaidd i FIFA
Mae Laura McAllister o’r farn bod digon o weinyddwyr pêl-droed benywaidd o ansawdd i awgrymu y gallai conffederasiwn – neu hyd yn oed FIFA ei hun – gael ei arwain gan fenyw yn y blynyddoedd i ddod.
“Fy mhrofiad i o foderneiddio llywodraethu yw y gall pethau ddigwydd yn eithaf cyflym,” meddai.
“Yr hyn sy’n rhoi hyder i mi y gallai hynny ddigwydd… yw bod llu o fenywod talentog iawn yn gweithio mewn pêl-droed ar draws y ffederasiwn, mae rhai ohonynt eisoes yn eistedd ar Gyngor FIFA, ond mae eraill hefyd yn dalentog iawn, sydd â meddyliau strategol ac sydd wedi rhedeg sefydliadau ar lefel uchel iawn.”
Bydd yn lansio ei maniffesto etholiadol yn ddiweddarach y mis hwn, a bydd y bleidlais yn cael ei chynnal yng Nghyngres UEFA ar Ebrill 20.
Hefyd yn cystadlu yn erbyn McAlister am y swydd ar gyngor UEFA mae Evelina Christillin o’r Eidal.
Cwpan y Byd yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon?
O ran y posibilrwydd o wneud cais i gynnal Cwpan y Byd yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon, dywedodd McAllister bod gan gynnig o’r fath gyfle da i lwyddo.
“Mae’n hanfodol bod naratif gwahanol o amgylch y cais – hynny yw, bod pob gwlad ym Mhrydain ac Iwerddon yn rhan ohono. Dw i’n credu bod cais mwy amrywiol o ran diwylliannau’n rhoi hygrededd i gais,” meddai wrth y BBC.
A phan ofynnwyd iddi am briodoldeb gwneud cais o’r fath yn sgil pandemig dywedodd ei bod yn “deall y pwynt” ond bod pêl-droed yn “ffynhonnell o foddhad”.
“Rwy’n credu drwy gydol hanes y ceisiadau bod y cyhoedd yn gwerthfawrogi bod pêl-droed yn arbennig a chwaraeon yn gyffredinol yn rhoi cymaint o bleser i bob un ohonom,” meddai.
“Mae’n ffynhonnell o foddhad ac yn belydr o olau ar adegau tywyll. Yn amlwg, mae arian cyhoeddus yn brin, rydym yn gwybod y bydd yn rhaid i ni ailadeiladu’r economi ar ôl Covid ac effeithiau’r pandemig ond byddai cael Cwpan y Byd ym Mhrydain am y tro cyntaf ers 1966 yn aruthrol i bob gwlad yn y Deyrnas Unedig ac rwy’n credu y gallem wneud gwaith gwych.”