Fydd y Ceidwadwyr ddim yn cydweithio â Phlaid Cymru ar ben arall yr etholiad, a dylai Llafur ymrwymo i wneud yr un fath.

Dyna mae Andrew RT Davies, arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd, wedi ei ddweud brynhawn heddiw.

Mae Plaid Cymru eisoes wedi gwrthod y posibiliad o glymbleidiol â’r Ceidwadwyr, tra bod y Torïaid, hyd yma, wedi bod yn amwys a phenagored am y mater.

Ond, bellach, mae Andrew RT Davies yn mynnu na fydd yn cydweithio â’r Blaid ar un unrhyw ffurf, ac mae wedi ymbil ar y Blaid Lafur i wneud yr un fath.

“Dw i am roi ymrwymiad clir i bobol ledled Cymru na fyddwn yn gweithio â separatists Plaid Cymru,” meddai.

“Fydd sefyllfa 2016 ddim yn cael ei hailadrodd a fyddwn ni ddim yn cefnogi enwebiad unrhyw arweinydd arall.

“Yn anffodus mae Prif Weinidog Llafur wedi chwarae â syniadaeth cenedlaetholdeb yn ystod ei gyfnod byr yn y swydd.

“Ond er budd ein gwlad, a’r adfywiad economaidd, mae’n rhaid iddo addo y bydd yn wfftio unrhyw gynllwynio cudd â phlaid sydd â’i bryd ar chwalu Prydain.”

At beth mae RT yn cyfeirio?

Yn 2016 methodd Llafur ag ennill mwyafrif o seddi’r Senedd, a phan ddaeth at ethol Prif Weinidog roedd y siambr wedi’i rhannu’n ddwy, gyda 29 o blaid Carwyn Jones a 29 o blaid Leanne Wood.

Roedd y Ceidwadwyr ymhlith y pleidiau rheiny a wnaeth ochri â Phlaid Cymru. Yn y pendraw mi ddaeth Llafur a Phlaid Cymru i gytundeb, a daeth Carwyn Jones yn Brif Weinidog.

Wythnos ddiwethaf, mi alwodd Mark Drakeford, arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru, am home rule” i Gymru, “oddi fewn i Deyrnas Unedig lwyddiannus”.

Mae’r term “home rule” gan amlaf yn cael ei gysylltu â chenedlaetholwyr (er taw datganoli cryfach yw’r ystyr yn y cyd-destun yma), ac at hyn mae Andrew RT yn cyfeirio pan sonnir am “chwarae â syniadau cenedlaetholdeb”.

Mae’r AoS Ceidwadol hefyd yn honni bod y tymor Senedd hwn wedi bod yn llawn “cytundebau cudd (backroom deals)”.

Mae’n werth nodi bod ei ragflaenydd, Paul Davies, wedi gorfod camu o’r neilltu ar ôl bod ynghlwm â sgandal yfed yn y Senedd – trafodaeth ‘backroom’ gydag alcohol oedd hynny, mae’n deg dweud!

Perthynas un ochrog Plaid a’r Torïaid…

Mae yna gefndir digon difyr i’r stori hon.  

Yn siarad ar ddechrau 2018, a phan oedd yn arweinydd am y tro cyntaf, dywedodd Andrew RT Davies ei fod yn agored i’r posibiliad o glymbleidiol.

Hyd yn oed bryd hynny roedd Plaid Cymru, dan Leanne Wood, yn gwrthod y posibiliad hwnnw.

Yn ddiweddarach y flwyddyn honno awgrymodd Paul Davies, olynydd ac yna rhagflaenydd Andrew RT Davies, ei fod yntau hefyd yn agored i’r posibiliad.

Ym mis Hydref y llynedd dywedodd Adam Price, arweinydd presennol y Blaid, wrth Golwg na fyddai clymblaid rhwng y ddwy blaid yn digwydd.

Mae arolygon barn yn gyson yn darogan mai Llafur fydd â’r nifer uchaf o seddi wedi’r etholiad eleni, gyda Phlaid Cymru a’r Ceidwadwyr yn ail (gyda’r drefn yn amrywio â phob arolwg barn).

Pe bai Llafur yn methu ag ennill mwyafrif bydd hynny’n siŵr o danio trafodaethau ynghylch clymbleidiol.