Fe fyddai arweinydd y Ceidwadwyr ym Mae Caerdydd yn fodlon clymbleidio â Phlaid Cymru wedi etholiadau’r Cynulliad yn 2021 – pe bai hynny’n golygu disodli’r Llywodraeth Lafur.
Wrth annerch y wasg yn y Senedd ddechrau’r wythnos hon, roedd Andrew R T Davies yn ei gael ei hun yn gorfod ateb nifer o gwestiynau am ei arweinyddiaeth, ac am her bosib i’r swydd honno.
Ond roedd ef ei hun yn glir ynglyn â’r gwaith o’i flaen – ac yn fodlon ystyried pob math o gydweithio er mwyn ennill grym ymhen tair blynedd.
“O’n meinciau ni, mae yna farn y gallwn ni gydweithio os yw’r awch yna mewn pleidiau eraill… i ni, y rhwystr mwyaf i ddatblygiad yng Nghymru yw’r Blaid Lafur,” meddai Andrew R T Davies.
“Yn amlwg, mae gennym ni safbwyntiau Ceidwadol, a fyddwn ni byth yn cefnogi annibyniaeth i Gymru fel y mae’r cenedlaetholwyr yn ei wneud…
“Mae Leanne Wood wedi dweud yn glir nad oes diddordeb ganddi o gwbwl i weithio gyda’r Ceidwadwyrm” meddai wedyn. “Dw i’n deall hynny, ond mae’r llanw yn mynd a dod… mae tair blynedd i fynd tan yr etholiad.”
Arweinydd yma i aros
Er bod ambell i si yn ffrwtian yng nghoridorau’r Cynulliad y gallai Andrew RT Davies wynebu her i’w arweinyddiaeth, mae ef ei hun yn benderfynol mai fe fydd yn arwain at yr etholiad nesaf yn 2021.
Does neb o fewn y grŵp Ceidwadwyr ym Mae Caerdydd yn son am her i’r arweinyddiaeth, ond mae yna ambell un arall yn darogan y gallai dyddiau Andrew RT Davies fod wedi’u rhifo.
“Mae arweinydd yn arwain wrth gadw hyder y sawl y mae e neu hi’n eu arwain,” meddai Andrew R T Davies wrth annerch y wasg yn y Senedd ddechrau’r wythnos.
“Dw i’n cynnig fy arweinyddiaeth i’r sawl sydd yn y grŵp yn y Cynulliad ac i gydweithwyr yn y Ceidwadwyr Cymreig.
“Dw i ddim yn llai awchus am arwain y grŵp, nac arwain y Ceidwadwyr Cymreig… dw i’n awyddus i ddatblygu achos y Ceidwadwyr Cymreig yma yng Nghymru.
“… Dw i’n bersonol yn barod am y frwydr, yn barod am yr her, ac yn barod i gymryd y syniadau dw i’n meddwl bydd yn symud y Ceidwadwyr Cymreig ymlaen yma yng Nghymru.”
Paul Davies, Aelod Cynulliad Preseli Penfro, yw dirprwy arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ar hyn o bryd.