Mae’r ffordd y mae’r BBC yn ymdrin â newyddion datganoledig “wedi newid am byth”, yn ôl Cyfarwyddwr Cyffredinol y gorfforaeth.

Daeth sylwadau Tim Davie, pennaeth y sefydliad, yn ystod sesiwn graffu gan un o bwyllgorau’r Senedd heddiw.

Mae’r BBC, yn debyg i sawl gwasanaeth newyddion Prydeinig arall, wedi’i feirniadu dros gyfnod yr argyfwng am eu gwaith yn gohebu ar newyddion datganoledig.

Tua dechrau’r pandemig yn benodol, roedd yna gryn ddryswch ynghylch pa reolau oedd mewn grym dros y Deyrnas Unedig gyfan, a pha rhai oedd yn berthnasol i Loegr yn unig.

Holwyd y Cyfarwyddwr Cyffredinol am hyn fore heddiw, a dywedodd yntau bod newyddion datganoledig, a’r ffordd mae’n cael ei drin gan y gorfforaeth, wedi newid yn barhaol.

“Dw i’n optimistaidd”

“Dw i’n credu – ac mae hyn yn wir â llawer o bethau â covid – bod y byd wedi’i newid am byth,” meddai. “Ond mae’r risgiau y gallwn ddychwelyd i’r hen fyd yn dal i fod yno. Ond dw i’n optimistaidd.

“Mae wedi bod yn foment fawr, dw i’n credu, i lawer o bobol ledled y Deyrnas Unedig fel eu bod wir yn deall penderfyniadau datganoledig, a phwysigrwydd a goblygiadau hynny.

“Mae gramadeg briffio teledu ar rwydwaith wedi newid am byth,” atega. “Felly dw i’n optimistaidd. Dw i’n credu ei fod wedi newid ac ein bod yn dysgu. Gallwn fod yn browd o’n hymdrechion.

“Rydych yn iawn i’n herio. A chawn weld sut wnawn ni. Ond, i ateb y cwestiwn, mae pethau wedi newid am byth”.

Bu iddo gydnabod bod “llawer o ddryswch” tua dechrau’r pandemig, ond pwysleisiodd nad y BBC yn unig oedd ar fai am hynny.

Ategodd ei fod yn dal i fod yn anodd i olygyddion newyddion ddarparu adroddiadau sydd yn “rhoi chwarae teg i bob un genedl”.

Dywedodd hefyd bod gohebu ar newyddion datganoledig wedi bod yn “bwnc mawr” ac yn destun “trafodaeth hynod fawr” oddi fewn y sefydliad.

Y gorfforaeth a’r Gymraeg

Pwysleisiodd yr angen i wario arian y tu hwnt i Lundain, a rhoddwyd rhywfaint o sylw i’r Gymraeg yn ystod y sesiwn graffu.

“Rydym yn chwarae rhan allweddol o ran twf, datblygiad, a chefnogaeth darlledu cyfrwng Cymraeg,” meddai Tim Davie.

“Mae’n allweddol i ni, Dyma rôl yr ydym ni’n ei gyflawni nad yw pobol eraill yn medru ei gyflawni. Mae ein partneriaeth ag S4C yn ganolog o ran pwy ydym ni ac mae’n bwysig iawn.

Yn ymuno â Chyfarwyddwr Cyffredinol yn y sesiwn oedd Elan Closs Stephens, Aelod Anweithredol dros Gymru ar Fwrdd y BBC; a Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales.

Awgrymodd Rhodri Talfan Davies bod yna fwy o rôl i wasanaethau cyfrwng Saesneg y BBC wrth hybu defnydd y Gymraeg.

“Mae yna … gwestiwn hefyd o ran rhuglder,” meddai.

“Yn amlwg mae Radio Cymru yn gwneud gwaith gwych. Mae’n dal yn cyrraedd cynulleidfa tu hwnt i 100,000 yr wythnos. Ac mae’r gwrandawyr hynny yn gwrando am dros 10 awr yr wythnos.

“Rydym yn sôn am filiwn o oriau o wrando pob wythnos trwy’r orsaf genedlaethol.

“Y cwestiwn wedyn yw shwd y’n ni’n ehangu ein heffaith ni gyda phobol sydd yn llai rhugl, ac yn benodol siaradwyr Cymraeg sydd yn byw mewn cartrefi lle nad Cymraeg yw iaith yr aelwyd.

“Felly mae opsiynau o ran [adnodd dysgu] Bitesize a chynyddu’r gefnogaeth sydd gyda ni ar Bitesize. A hefyd mae’n rhaid i ni ystyried beth yw rôl Radio Wales o ran cefnogi’r iaith.”

Mi wfftiodd yr awgrym y dylid sefydlu sianel deledu Saesneg arall yng Nghymru, a phwysleisiodd bod Cymry yn fwy awyddus i weld deunydd Cymreig ar y prif sianeli, e.e BBC One.

“Dydw i ddim yn meddwl yn strategol y byddai sianel i Gymru yn ateb i’r her sydd gennym ni yma,” meddai. “Dw i ‘n credu mai … mwy o gyd-gynhyrchiadau rhwydwaith [sy’n apelio i’r gynulleidfa].”