Mae Eisteddfod yr Urdd wedi cyhoeddi fod dwy gystadleuaeth newydd yn ymddangos yn y Rhestr Testunau eleni – er cof am gyn-gartwnydd Golwg, Cen Williams,a fu farw y llynedd.

Y gobaith yw annog y genhedlaeth nesaf i roi pensel ar bapur, neu frwsh ar gynfas.

Cyflwynir y ddwy gystadleuaeth newydd gyda chefnogaeth teulu Cen Williams, ac fe’u datblygwyd gyda chymorth y darlunydd Huw Aaron.

“Roedd cartwnau Cen yn llyfrau fy mhlentyndod yn sbardun creadigol imi, a’i waith yng nghylchgrawn Golwg gyda’r gorau,” meddai Huw Aaron.

“Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at gael beirniadu’r ddwy gystadleuaeth hon, a bod yn dyst i ddychymyg a thalentau darlunwyr y dyfodol.”

Cen Williams
Cen Williams

Fe gafodd Cen Williams ei fagu ym mhentref Gwalchmai ym Môn cyn troi am Gaerdydd ar gyfer ei ddyddiau coleg.

Roedd yn bêl-droediwr dawnus ac yn un o’r criw wnaeth sefydlu Clwb Pêl-droed Cymry Caerdydd yn 1969.

Yn rhinwedd ei waith creadigol, roedd Cen yn mwynhau cynnal gweithdai celf i blant a phobl ifanc ledled Cymru.

Bu Cen Williams yn gwerthu ei gartŵns ar gais, gan roi’r arian at elusen fu’n helpu dioddefwyr myasthenia gravis, bu hefyd yn llunio cartŵn wythnosol i Golwg hyd at fis Ebrill 2020, pan gafodd ei daro yn wael gan y coronafeirws.

Bu farw yn 74 oed fis Mai’r llynedd.

Detholiad o rai o gartwnau Cen Williams yng nghylchgrawn Golwg

‘Braint o’r mwyaf i’r teulu’

“Fel un â’i ddawn a’i ymroddiad bob amser yn y byd creadigol, braint o’r mwyaf i ni fel teulu ydi cyflwyno’r gwobrau hyn er cof am un mor annwyl,” meddai ei nith Elin Williams.

“Roedd Cen wrth ei fodd yn gweld eraill yn ymddiddori mewn celf gan annog talent ifanc.

“Roedd yr Urdd a’r Eisteddfod yn benodol yn ganolog i fywyd Cen a bydd y ddwy gystadleuaeth yma’n gyfle i genhedlaeth nesaf o arlunwyr i barhau i ymddiddori mewn celf ac yn goffa da ohono.”

Fel rhan o’r cystadlaethau newydd yn Eisteddfod T eleni bydd gofyn i blant oed cynradd ddyfeisio cymeriad cartŵn gwreiddiol, a darlunwyr Blynyddoedd 7-9 i greu tudalen o gomic gyda chymeriadau.

Bydd y rhai sy’n fuddugol yn cael eu mentora gan y darlunydd Huw Aaron er mwyn datblygu eu syniadau ymhellach, cyn cyhoeddi’r gweithiau terfynol yng nghylchgronau’r Urdd.

Mae’r Urdd yn bwriadu cynnwys y cystadlaethau newydd ar Restr Testunau Eisteddfodau’r Urdd yn y dyfodol hefyd er mwyn cynnig platfform i feithrin ac annog darlunwyr ifanc.

Cen Williams

Cofio’r cartwnydd Cen Williams – “doedd dim yn ormod o drafferth iddo”

Mi fu yn darparu cartŵn yn wythnosol i Golwg hyd at fis diwethaf, pan gafodd ei daro yn wael gan y coronafeirws.