Mae miloedd o fenywod, sydd ddim wedi bod yn derbyn eu pensiwn yn llawn, fod yn gymwys ar gyfer taliadau gwerth £3bn.

Datgelodd gwall gweinyddol ym mis Mawrth 2020 fod rhai pobol heb gael eu talu’n ddigonol, yn ôl dogfennau’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR).

Roedd y tan-daliadau yn effeithio ar ferched priod oedd a gwyr oedd wedi cyrraedd oedran pensiwn cyn 2008 ac oedd â hawl ddiamod i gael “pensiwn uwch” a fyddai wedi rhoi hwb o hyd at 60% i’w taliadau.

Roedd ymchwiliad gan yr Adran Waith a Phensiynau (DWP) rhwng mis Mai a Rhagfyr 2020 wedi datgelu bod nifer o fenywod wedi derbyn tan-daliadau yn eu pensiynau gan olygu y gallai miloedd o bobl priod, neu sydd wedi ysgaru, neu’n weddw, fod heb gael yr hyn sy’n daliadwy iddyn nhw ers 2008.

Dechreuodd y rhaglen ad-dalu ym mis Ionawr 2021.

Dywedodd yr adroddiad: “Mae ein rhagolwg yn adlewyrchu amcangyfrif cychwynnol y bydd yn costio tua £3 biliwn dros y chwe blynedd hyd at 2025-26 i fynd i’r afael â’r tan-daliadau hyn.”

Dywedodd Syr Steve Webb, cyn Weinidog Pensiynau sydd bellach yn bartner mewn cwmni ymgynghorwyr pensiynau: “Pan edrychais ar y mater hwn am y tro cyntaf flwyddyn yn ôl, nid oedd gennyf syniad y byddai’n fater mor enfawr.

“Gallai ad-daliadau o £3 biliwn dros y pum mlynedd nesaf awgrymu bod niferoedd enfawr o ferched wedi cael eu heffeithio, o bosibl am ddegawd neu fwy.

“Mae angen i’r Llywodraeth neilltuo adnoddau i gael yr ad-daliadau hyn allan yn gyflym gan fod y merched hyn wedi aros yn ddigon hir.”