Mae archwiliad post-mortem wedi methu â sefydlu achos marwolaeth dyn fu farw oriau’n unig ar ôl cael ei ryddhau o ddalfa’r heddlu, mae cwest wedi cael gwybod.

Cafodd Mohamud Hassan, 24, ei arestio yn ei gartref yng Nghaerdydd ar noson Ionawr 8 ar amheuaeth o dorri’r heddwch, ond fe’i rhyddhawyd y bore wedyn.

Yna, cafodd ei ganfod yn farw yn ei fflat yn Heol Casnewydd ar Ionawr 9, gyda’i deulu’n honni iddo ddioddef anafiadau yn y ddalfa.

Yn dilyn ei farwolaeth, bu cannoedd o bobol yn protestio y tu allan i orsaf yr heddlu yn y brifddinas a chyfeiriwyd y mater gan Heddlu De Cymru at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (yr IOPC) ar gyfer ymchwiliad annibynnol.

Fe wnaeth yr IOPC gyflwyno hysbysiad camymddwyn i un o swyddogion yr heddlu am fethu trosglwyddo gwybodaeth am gwynion Mr Hassan am gael ffit a bod mewn poen i staff y ddalfa.

Cwest

Ddydd Iau (Chwefror 4) clywodd y cwest nad oedd hi’n glir beth oedd wedi achosi marwolaeth Mohamud Hassan yn dilyn post-mortem gan Dr Deryk James o Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Dywedodd cynorthwy-ydd y Crwner, Emma Pontin, fod Mohamud Hassan gyda ffrind yn ei fflat ar Ionawr 9 a chafodd ei weld yn fyw am y tro diwethaf am 5yh.

Yna cafodd ei ganfod yn anymwybodol gan y ffrind am 10.30yh, gyda’r gwasanaethau brys yn cael eu galw ac yn cyrraedd am 10.56yh.

Dywedodd y Crwner Graeme Hughes: “O ystyried bod Dr James wedi nodi yn ei adroddiad diweddaraf nad yw’n gallu ffeindio achos meddygol i’r farwolaeth ar hyn o bryd, mae’n syrthio arnaf i i gynnal ymchwiliad i’r amgylchiadau sy’n gysylltiedig â marwolaeth Mr Hassan, ac yna gwblhau’r ymchwiliad hwnnw drwy gwest.”

Dywedodd wrth deulu Mohamud Hassan, a fynychodd y gwrandawiad yn rhithiol, y byddai ei ymchwiliad yn cael ei gyfyngu i “bwy oedd e, pryd y bu farw, ble y bu farw, ac yn bwysicaf oll, sut y bu farw”.

Dywedodd Mr Hughes fod ymchwiliad yr IOPC i farwolaeth Mr Hassan “yn ei ddyddiau cynnar”.

Dywedodd y bydd gwrandawiad adolygu yn cael ei gynnal ar 3 Rhagfyr, ond y gellid gofyn am ddiweddariad ysgrifenedig gan yr IOPC ym mis Awst.

Mae nifer o brotestiadau wedi’u cynnal y tu allan i orsaf heddlu Bae Caerdydd i alw am gyhoeddi fideo teledu cylch cyfyng (CCTV) a body cam yr heddlu o arestiad Mohamud Hassan.

Mae’r IOPC wedi gwrthod gwneud hynny, gan ddweud bod posibilrwydd y gallai fod angen y fideos dan sylw ar gyfer achosion troseddol, camymddwyn neu gwest.

Y diweddaraf

Dywedodd yr IOPC ddydd Mawrth nad oes “unrhyw dystiolaeth” y defnyddiwyd Taser ar Mr Hassan yn ystod ei arestiad neu ei gyfnod yn y ddalfa.

Dywedodd yr IOPC fod swyddogion wedi mynychu fflat Mr Hassan yn dilyn adroddiad bod pump o ddynion wedi dod i mewn i’r cyfeiriad ac ymladd gyda phump o breswylwyr. Dywedwyd bod gan rai ohonynt anafiadau gweladwy pan gyrhaeddodd swyddogion yr heddlu.

Dywedodd yr IOPC hefyd ei fod yn casglu adroddiadu gan 46 o swyddogion a staff yr heddlu, gan gynnwys y rhai a oedd ar ddyletswydd yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd dros ddwy shifft ar wahân, y rhai a oedd mewn swyddi goruchwylio, a’r rhai a fynychodd gyfeiriad Mr Hassan yn ystod ei arestiad ac ar ôl ei farwolaeth.

Y swyddog ddaeth â Mr Hassan i’r orsaf mewn fan heddlu yw’r swyddog sydd eisoes wedi cael hysbysiad camymddwyn mewn perthynas â’i fethiant i drosglwyddo gwybdaeth am gwynion Mr Hassan am fod mewn poen i staff y ddalfa.

Galw am wahardd swyddog

Mae’r Cyfreithiwr Hilary Brown, sy’n cynrychioli teulu Mohamud Hassan, wedi galw am wahardd y swyddog penodol hwnnw ar unwaith.

Dywedodd eu bod yn pryderu y gallai gohirio cwest llawn i’w farwolaeth tan fis Rhagfyr ganiatáu iddo gael ei ddylanwadu gan ymchwiliad watchdog yr heddlu.

Mae Hilary Brown hefyd wedi beirniadu’r IOPC o’r blaen wrth ymdrin â’i ymchwiliad.

“Fy mhryder i yw erbyn i’r IOPC ddod â’u hymchwiliad i ben, byddan nhw wedi ysgrifennu adroddiad ar eu canfyddiadau, a bydd hynny’n dylanwadu ar y crwner,” meddai.

“Roedden ni eisiau i’r cwest ddod ymlaen oherwydd rydyn ni eisiau gallu sicrhau bod popeth ar y trywydd iawn, a bod ymholiadau sy’n berthnasol yn cael eu dilyn.”

“Dim tystiolaeth” fod y defnydd o taser ynghlwm â marwolaeth Mohamud Mohammed Hassan

Ymchwilwyr yn cyhoeddi diweddariad wedi i Mohamud Mohammed Hassan farw ar ôl bod yn y ddalfa

Marwolaeth Mohamud Hassan: cyflwyno hysbysiad camymddwyn i un o swyddogion yr heddlu

Yr IOPC yn dweud ei bod yn ymchwilio i weld a fethodd swyddog â throsglwyddo i staff y ddalfa gwynion Mr Hassan am gael ffit a bod mewn poen

Dyn 24 oed wedi marw’n sydyn ar ôl bod yn y ddalfa yng Nghaerdydd

Heddlu De Cymru yn cadarnhau bod Mohamud Mohammed Hassan wedi treulio noson mewn gorsaf heddlu cyn cael ei ddarganfod yn farw yn ei gartref