Mae’r Canghellor Rishi Sunak yn mynnu bod rhewi’r dreth incwm yn benderfyniad “blaengar”.
Ers cyhoeddi ei Gyllideb ddoe mae nifer wedi galw arno i wneud mwy i fynd i’r afael â thwf araf mewn safonau byw ac mae dadansoddiad pellach yn awgrymu y bydd llawer mwy o bobol yn gorfod talu treth wrth i gyflogau gynyddu.
Cyhoeddodd y bydd y pwynt lle mae pobol yn dechrau talu treth incwm yn cynyddu o £70 ym mis Ebrill i £12,570, ac y byddant yn cael eu cadw ar y lefel honno tan fis Ebrill 2026.
Bydd trothwy cyfradd 40c yn cynyddu o £270 i £50,270 ac yna’n cael ei rewi, y gobaith yw gall y mesurau godi bron £8.2 biliwn yn 2025-26.
Dywedodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS) y byddai tua 1.3 miliwn o bobol ychwanegol yn cael eu cynnwys yn y system treth incwm, a tua 10% o oedolion yn ymuno â’r gyfradd 40c uwch.
“Mae rhewi treth bersonol yn ffordd flaengar o godi arian. Mae’n hollbwysig bod pobol yn deall nad yw’r polisi hwn yn effeithio nag yn gostwng cyflogau mae pobol yn eu cael heddiw,” meddai Rishi Sunak wrth Sky News.
“Yr hyn y mae’n ei wneud yw dileu’r budd cynyddol y gallent fod wedi’i brofi yn y dyfodol wrth i chwyddiant fwydo drwodd i’w cyflogau.
“Hefyd yn hollbwysig, mae’r polisi hwn yn effeithio mwy ar y rhai ar incwm uwch – mae’n bolisi blaengar iawn ac mae hynny’n rhywbeth sydd wedi’i nodi gan felin drafod annibynnol sy’n cael eu parchu, fel y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ac eraill sydd wedi gwneud y pwynt y bydd yr 20% cyfoethocaf o aelwydydd, er enghraifft, yn cyfrannu 15 gwaith yn fwy na’r rhai ar yr incwm isaf.
“Dyna pam mae hwn yn ffordd deg o helpu i ddatrys y problemau y mae angen i ni eu datrys.”
“Cwestiynau mawr i’w hateb o hyd”
Yn ôl y Resolution Foundation mae gan y Canghellor “gwestiynau mawr i’w hateb o hyd”, ac y byddai toriad o £4 biliwn y flwyddyn mewn gwariant cyhoeddus yn “heriol i’w gyflawni”, ac y bydd angen oddeutu £15 biliwn arall erbyn 2025.
Awgrymodd eu dadansoddiad y bydd cyflog cyfartalog y DU 4.3% yn is, neu £1,200, na chyn yr argyfwng erbyn canol y degawd, ac y bydd y Llywodraeth yn gweld yr ail dwf arafach mewn safonau byw a gofnodwyd erioed.
Dywedodd y felin drafod y bydd yr aelwydydd tlotaf yn gweld gostyngiad o 7% mewn incwm pan ddaw’r codiad Credyd Cynhwysol o £20 yr wythnos i ben.
“Mae’r Canghellor wedi blaenoriaethu cefnogaeth i’r adferiad nawr a chynyddu’r dreth yn y dyfodol,” meddai Torsten Bell, prif weithredwr y Resolution Foundation.
“Dyma’r dull cywir i’w gymryd yn fras o ran diogelu’r economi nawr, sicrhau adferiad nesaf, ac atgyweirio’r arian cyhoeddus yn ddiweddarach.
“Ond mae manylion ei gynlluniau yn gadael cwestiynau difrifol sydd heb eu hateb ynghylch a oes digon wedi’i wneud i gefnogi aelwydydd yn yr adferiad i ddod, pa mor gredadwy yw hi y gellir cyflawni gostyngiadau pellach mewn gwariant, ac os yw cyllid cyhoeddus y DU wedi’i roi ar sail gynaliadwy yn y tymor hir.”
Mae amcangyfrifon hefyd gan Sefydliad Joseph Rowntree y bydd hanner miliwn o bobol, gan gynnwys 200,000 o blant, yn cael eu rhoi mewn tlodi pan ddaw’r cynllun ffyrlo i ben.