Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhuddo’r Canghellor Rishi Sunak o “golli cyfle” ac o fethu â darparu’r cyfalaf ychwanegol oedd ei angen i osod sylfeini’r adferiad economaidd yng Nghymru.

Cyhoeddodd y Canghellor ddoe (dydd Mercher, Mawrth 3) y byddai Cymru yn derbyn £740m o gyllid ychwanegol drwy’r fformiwla Barnett ynghyd â chyllid ar gyfer cyfres o brosiectau i annog twf economaidd hirdymor.

Canlyniad i fesurau Covid Lloegr “ar sail tebyg at ei debyg” yw’r cyllid ychwanegol, yn ôl Rebecca Evans Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru.

Daeth y cyhoeddiad ddiwrnod wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r Gyllideb Derfynol yng Nghymru.

“Er mai adferiad a fyddai’n cael ei arwain gan fuddsoddiad oedd bwriad y Canghellor methodd â darparu’r ysgogiad cyfalaf ychwanegol oedd ei angen i osod y sylfeini, ac ni chafwyd yr un geiniog yn ychwanegol ar gyfer gwariant cyfalaf yng Nghymru’r flwyddyn nesaf,” meddai Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru.

Er bod y Gweinidog wedi croesawu cynlluniau’r Canghellor i ymestyn mesurau cymorth Covid, gan gynnwys y cynllun ffyrlo sydd yn cefnogi 178,000 o bobol yng Nghymru, mae’r gyfradd ddiweithdra yn parhau’n bryder iddi.

“Mae’n hanfodol mai fesul dipyn, a dim ond pan fydd yr adferiad wedi hen gychwyn ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig, y caiff y cynlluniau [cymorth Covid] eu dileu,” meddai.

Mae disgwyl i gyfradd ddiweithdra’r Deyrnas Unedig gynyddu o 5.1% i 6.5% eleni.

‘Colli cyfle’

Aeth Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru ymlaen i ddweud fod y Canghellor wedi “colli cyfle”.

“Mae’n destun pryder imi nad oes digon yn cael ei wneud i gymell busnesau’n fwy cyffredinol i gynyddu eu gweithluoedd,” meddai.

“Byddai gostyngiad dros dro yng Nghyfraniad Yswiriant Gwladol cyflogwyr wedi eu cymell i wneud hynny ac, yn hyn o beth, collwyd cyfle gyda’r Gyllideb heddiw.

“Mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi nodi mai rhewi’r lwfans personol yw un o’r ffyrdd lleiaf blaengar o godi treth incwm.

“Bydd yn llusgo llawer o weithwyr sy’n ennill cyflogau is i mewn i’r system treth incwm dros y blynyddoedd nesaf ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar y rhai sy’n ennill y cyflogau uchaf.

“Roedd angen llawer mwy na hynny o’r Gyllideb heddiw ar y rheini ar incwm isel sy’n ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.”

Yn dilyn cyhoeddiad Rishi Sunak Cyhoeddodd Rebecca Evans bydd y cynllun sy’n golygu nad yw busnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru yn gorfod talu ardrethi yn cael ei estyn am 12 mis arall.

Cyhoeddodd hefyd y byddai’r gostyngiad dros dro yn y Dreth Trafodiadau Tir yn cael ei ymestyn yng Nghymru tan ddiwedd mis Mehefin.

Symud gweithgarwch economaidd o Gymru i Loegr

Mynegodd Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru ei siom o glywed fod y Canghellor wedi cyhoeddi y byddai porthladdoedd rhydd yn cael eu cyflwyno yn Lloegr, a hynny cyn i drafodaethau gael eu cwblhau.

“Rydyn ni’n barod i weithio gyda Llywodraeth y DU i ymchwilio i’r posibilrwydd o gyflwyno porthladdoedd rhydd yng Nghymru, ar yr amod eu bod yn gyson â’n gwerthoedd a’n blaenoriaethau ac yn cael yr un manteision a chyllid â’r rhai yn Lloegr.

“Mae’r penderfyniad i gyhoeddi’r porthladdoedd rhydd yn Lloegr cyn cwblhau’r trefniadau gyda’r gwledydd datganoledig yn golygu bod risg sylweddol y gallai’r porthladdoedd hyn olygu bod  gweithgarwch economaidd yn symud o Gymru i Loegr.”

‘Dull ymosodol Llywodraeth y DU’

Mae hefyd wedi mynegi ei siom na fydd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ddyrannu arian o gronfeydd sydd yn cymryd lle Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd gweinidogion Cymru wedi disgwyl y byddai’r cyllid yn cael ei wario yn Lloegr, gyda chyfran wedyn yn mynd i gyllidebau’r llywodraethau datganoledig.

“Mae dull ymosodol Llywodraeth y DU o fynd ati i wneud trefniadau yn lle Cronfeydd Strwythurol yr UE drwy ddyrannu cyllid yn uniongyrchol yng Nghymru ar faterion datganoledig drwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU a’r Gronfa Codi’r Gwastad yn gwbl annerbyniol.

“Mae’n mynnu gwneud penderfyniadau ar faterion datganoledig, a hynny heb fod yn atebol i Senedd Cymru ar ran pobl Cymru.

“Nid yw wedi cysylltu â ni o gwbl i drafod y prosbectysau a gyhoeddwyd dair wythnos yn unig cyn i’r cronfeydd hyn ddechrau, ac mae’n tanseilio blynyddoedd o waith yr ydym wedi’i wneud gyda rhanddeiliaid i ddatblygu trefniadau buddsoddi rhanbarthol newydd.”

Rishi Sunak

£740m yn fwy i Lywodraeth Cymru

Ymateb cymysg sydd i’r Gyllideb gan y pleidiau yng Nghymru

Ymestyn cynllun ardrethi busnes am 12 mis

Cynllun sy’n golygu nad yw busnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru yn gorfod talu ardrethi yn cael ei ymestyn am 12 arall