Mae’r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans AoS, wedi cyhoeddi heddiw y bydd y cynllun sy’n golygu nad yw busnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru yn gorfod talu ardrethi yn cael ei estyn am 12 mis arall.
Mae’r pecyn sy’n werth £380m yn rhoi hoe rhag talu ardrethi busnes am flwyddyn i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch – sydd â gwerth ardrethol o hyd at £500,000 – yn ogystal ag elusennau.
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru mai’r nod “yw helpu busnesau bach a chanolig eu maint sy’n ei chael yn anodd ymdopi ag effeithiau’r pandemig”.
Bydd y pecyn hwn, ar y cyd â’n cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach, yn golygu na fydd mwy na 70,000 o fusnesau yn talu unrhyw ardrethi o gwbl yn 2021-22.
Mae’r Gweinidog hefyd wedi ymrwymo i ddarparu rhyddhad ardrethi o 100% i fusnesau ac elusennau yn y sector hamdden a lletygarwch ar gyfer 2021-22.
Mae’r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, hefyd wedi cadarnhau heddiw y bydd cyfnod gostyngiad dros dro y Dreth Trafodiadau Tir yn cael ei ymestyn am 3 mis arall, fel y bydd yn dod i ben ar 30 Mehefin 2021.
“Neilltuo mwy o gyllid ar gyfer cymorth busnes nag a gawsom gan Lywodraeth y DU”
Mewn datganiad, dywed Llywodraeth Cymru bod eu cynllun yn “mynd y tu hwnt i’r hyn a gyhoeddwyd yn Lloegr”.
Rydyn ni'n mynd gam ymhellach na Llywodraeth y DU drwy estyn y cyfnod o hoe rhag talu ardrethi am 12 mis arall i fusnesau ac elusennau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch. Ni fydd busnesau â gwerth ardrethol o hyd at £500,000 yn gorfod talu ardrethi o gwbl yn 2021-22.
— Rebecca Evans (@wgmin_finance) March 3, 2021
Dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans:
“Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod busnesau yng Nghymru yn gallu elwa ar y pecyn cymorth busnes mwyaf hael yn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig.
“Mae ein dull gweithredu cyfrifol, wedi’i dargedu, wedi ein galluogi i neilltuo mwy o gyllid ar gyfer cymorth busnes nag a gawsom gan lywodraeth y DU. Mae’n bleser gennyf gadarnhau y bydd ein pecyn rhyddhad ardrethi o 100% ar gyfer y sectorau hynny sydd wedi dioddef waethaf yn parhau am 12 mis arall, gan ddiogelu swyddi a busnesau ledled Cymru.”