Richard Wyn Jones yn taflu goleuni dros hunaniaeth ein cymdogion
Mae yna ddiffyg dealltwriaeth o Seisnigrwydd, yn ôl academydd amlwg o Gymru sy’n mynd i’r afael â hynny yn ei lyfr newydd ar y mater.
Ers 2011 mae’r Athro Richard Wyn Jones wedi bod ynghlwm ag ymdrech i gasglu data am ein cymdogion dros Glawdd Offa.
Fe gafodd ymatebion eu casglu trwy gyfres o arolygon – ‘Arolygon Dyfodol Lloegr’ – a thrwy’r rhain mae’r academydd a’i gydweithwyr wedi datgelu tipyn am Saeson a Seisnigrwydd.
Bellach mae Richard Wyn Jones, ynghyd ag Ailsa Henderson, wedi crynhoi eu casgliadau mewn llyfr o’r enw Englishness: The Political Force Transforming Britain sydd ar gael i’w brynu heddiw.
Mae’r llyfr yn portreadu Seisnigrwydd fel hunaniaeth ddigon cymhleth.
Ar un ochr mae yna orfalchder cenedlaethol tuag at Loegr, yn ôl yr awduron, ond ar yr un pryd mae yna ofid bod Lloegr, fel endid gwleidyddol, wedi’i darostwng.
Oddi mewn i gloriau’r llyfr mae yna gyfeiriadau parhaus at Brexit, datganoli, a pherthynas cymhleth Seisnigrwydd â’r prosesau yma.
A dadleuir nad syniad haniaethol di-ddylanwad yw’r hunaniaeth Seisnig, ond ffenomen byw sydd eisoes yn dylanwadu ar y byd o’n hamgylch.
Academydd o Brifysgol Caerdydd yw Richard Wyn Jones, ac academydd o Brifysgol Caeredin yw Ailsa Henderson.
Does dim un o awduron y llyfr yn hanu o Loegr, nac ychwaith yn gweithio yn Lloegr, ac mae’r academydd o Gymru yn chwerthin o feddwl mai sefydliadau ‘Celtaidd’ sy’n arwain ymchwil yn y maes yma.
“Mae’n un o’r pethau dw i wastad yn ffeindio’n reit eironig,” meddai. “Mae’r gwaith mwyaf trwyadl ar agweddau yn Lloegr yn digwydd yng Nghymru a’r Alban.
“Yn bendant mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith bod academia a phobol sydd yn ymddiddori yng ‘ngwleidyddiaeth Prydain’ wedi meddwl yn draddodiadol bod gwleidyddiaeth hunaniaeth a chenedlaetholdeb yn ffenomen rownd ymylon y wladwriaeth – nid yn y craidd Seisnig.
“Ddaru ni sylweddoli yn weddol fuan bod yna rywbeth diddorol yn mynd ymlaen yn fan hyn.
“Ond rydan ni wedi ffeindio fo’n anodd iawn cael ein cydweithwyr ni yn Lloegr i gymryd hyn o ddifri tan yn gymharol ddiweddar.
“Ac wrth gwrs, yn sydyn reit rŵan, rydych yn clywed lot o bobol yn siarad am genedlaetholdeb Seisnig. Ond does dim llawer o neb wedi bod yn casglu data ac wedi bod yn gwneud y gwaith trylwyr…
“Mae yna lot o bobol sy’n siarad am genedlaetholdeb Seisnig bellach, a’i bwysigrwydd o, a’i ddylanwad o ar Brexit,” atega.
“Ond efallai [does] dim llawer o ddealltwriaeth o beth yn union ydy’r ffenomen ryfeddol yma. Dw i’n gobeithio ein bod ni yn y llyfr yma yn gwneud synnwyr ohono fo.”
Trwy ‘Arolygon Dyfodol Lloegr’ mae’r awdur yn dweud bod yntau a chydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a Chaeredin wedi “ceisio goleuo’r sefyllfa yn Lloegr”.
Mae’n awgrymu’n gryf eu bod wedi llwyddo i raddau helaeth.
“Yn ôl yn 2012 wnaethon ni ffeindio’r cysylltiad cryf ofnadwy yma rhwng Ewrosgeptiaeth yn Lloegr a hunaniaeth Seisnig,” meddai. “Erbyn rŵan dw i’n meddwl bod pawb yn ei gydnabod o.
“Ni sydd wedi canfod y cysylltiadau yma. Ac wedyn erbyn rŵan rydym wedi cael y cyfle i sgwennu’r holl beth i fyny ac i’w gyhoeddi o mewn llyfr swmpus.”
Mae’r syniad o ‘genedlaetholdeb Seisnig’ yn cael ei drafod yn fwyfwy yn gyhoeddus bellach, ac yn enwedig yng nghyd-destun Brexit.
Ym mis Rhagfyr mi ddywedodd Guto Bebb wrth gylchgrawn Barn bod “y Blaid Geidwadol yng Nghymru wedi troi i fod yn lladmerydd dros genedlaetholdeb Seisnig”.
Ac mewn darn i’r Evening Standard ym mis Ionawr fe wnaeth George Osborne, y cyn-Ganghellor Ceidwadol, feio Brexit am “ddatffrwyno cenedlaetholdeb Seisnig”.
Mae Richard Wyn Jones yn cydnabod bod y syniad o genedlaetholdeb Seisnig yn “dechrau gwreiddio” ond bod “dal llawer o gamddealltwriaeth yn ei gylch o”.
“Os ydy George Osborne yn dweud bod cenedlaetholdeb Seisnig wedi’i ddatffrwyno rŵan, y gwir amdani ydy bod o eisoes wedi trawsnewid y wladwriaeth,” meddai.
“Ac mi oedd George Osborne ei hun yn rhan o ymgyrch etholiadol lwyddiannus yn 2015 pan ddaru’r Ceidwadwyr yn bendant fanteisio ar genedlaetholdeb Seisnig er mwyn ennill y fuddugoliaeth yna ddaru wneud y refferendwm Brexit yn bosibl.”
Saeson – Rwsiaid y Deyrnas Unedig?
Mae dyn yn cael yr argraff o ddarllen y llyfr bod ‘Seisnigrwydd’ yn fater digon cymhleth.
Am ei bod mor unigryw, mae Richard Wyn Jones yn cael trafferth i feddwl am hunaniaeth debyg, ond yn y pen draw mae’n tynnu cymhariaeth gydag un o gyn-wledydd yr Undeb Sofietaidd.
“Dw i’n tybio bod yna elfennau tebyg i, dyweder, cenedlaetholdeb Rwsiaidd,” meddai.
“Y syniad yma o fod wedi bod yn ymerodraeth fawr bwerus â chryn falchder yn yr hanes yna, a bod pethau wedi newid ers hynny.
“Ond mae yna elfennau sydd yn unigryw. Mae’r ffordd mae Seisnigrwydd a Phrydeindod yn cysylltu â’i gilydd yn reit unigryw.
“Mae pobol sydd efo hunaniaeth Seisnig yn tueddu meddwl mewn termau Seisnig oddi fewn i’r wladwriaeth, ond Prydain y tu allan i’r wladwriaeth.
“Dyna yw un o’r pethau reit ddryslyd am y ffenomen yma. Mae’n debyg bod hynna’n eitha’ unigryw.”
Agwedd digon rhyfedd ar ‘Seisnigrwydd’, fel y mae heddiw, yw ei fod yn ddigon tebyg i genedlaetholdeb y gwledydd Celtaidd ganrifoedd yn ôl, yn ôl yr academydd.
“Ar un ystyr mae o’n debyg i’r math o genedlaetholdeb oedd gennym ni yng Nghymru, yn Iwerddon a’r Alban ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg,” meddai.
“Erbyn hyn mae cenedlaetholdeb Cymreig, Gwyddelig, ac Albanaidd yn gwrthod Prydeindod i raddau helaeth.
“Doedd hyn ddim yn wir os ydych yn edrych yn ôl i gyfnod Cymru Fydd [mudiad cenedlaetholgar oedd o blaid hunanlywodraeth i Gymru] a’r don gyntaf yna o genedlaetholdeb Cymreig.
“Os ydych yn edrych ar genedlaetholdeb Gwyddelig cyn twf Sinn Fein, mi’r oedden nhw’n ymhyfrydu mewn Prydeindod yn ogystal â bod eisiau cydnabod yr Alban, Iwerddon, a Chymru.
“Wrth gwrs rydym ni wedi symud ymlaen yn y gwledydd yna ers hynny. Mae cenedlaetholdeb yn y gwledydd yna yn tueddu i fod yn ymwrthod â Phrydeindod.
“Ond dydy Saeson ddim yn ymwrthod â Phrydeindod – y gwrthwyneb sy’n wir.”
Seisnigrwydd ar ei wely angau?
Ymhlith y bobol hynny sydd yn uniaethu fwyaf â’r hunaniaeth Seisnig, yn ôl y llyfr, mae pobol hŷn ac Anglicaniaid.
Ar y llaw arall mae pobol ifanc, pobol sydd ddim yn wyn, a phobol a gafodd eu geni y tu allan i Loegr, yn fwy tebygol o deimlo’n Brydeinig.
Tybed oes modd cymryd o’r ymchwil yma bod Seisnigrwydd ar ei wely angau, tra bod Prydeindod yn mynd o nerth i nerth oddi fewn i Deyrnas Unedig gosmopolitanaidd yr unfed ganrif ar hugain?
“Mae yna bosibiliad, o ran y demographics yna, bod newid hir hir dymor ar droed,” meddai Richard Wyn Jones.
“Ond mae mwyafrif llethol o bobol yn Lloegr yn teimlo’n Saeson. Felly dw i ddim yn siŵr y bydda’ i’n byw i weld [diwedd hunaniaeth Seisnig]!
“Y gwir amdani ydy bod lot o bethau yn gwreiddio hunaniaeth Seisnig. Ac mae’r syniad bod o jest yn mynd i ddiflannu yn ffôl.
“Yn un peth, oherwydd y ffordd mae datganoli i Gymru a’r Alban, mae wedi gwneud i Loegr ymddangos yn uned fwyfwy naturiol.”
Mae’r academydd yn ategu bod yr argyfwng covid wedi codi proffil y llywodraethau datganoledig, a bod hynny yn ei dro wedi amlygu’r ffaith bod Lloegr yn endid ar wahân.
“Rydan ni rŵan yn dechrau dod i’r arfer â gweld siâp Lloegr ar fap,” meddai. “Mae lot o bapurau newydd rŵan yn adrodd data o Loegr ochr yn ochr â map o Loegr.
“Dydan ni ddim wedi arfer gweld siâp Lloegr. Rydan ni wedi arfer gweld siâp Cymru. Rydan ni wedi arfer gweld siâp Prydain.
“Dydan ni ddim tan yn ddiweddar iawn wedi arfer â gweld siâp Lloegr yn cael ei ddylunio’n eglur ar fap. Mae hynna’n ganlyniad, na ellir ei osgoi, o ddatganoli.
“Dydy Lloegr ddim yn mynd i ffwrdd a dydy Seisnigrwydd ddim yn mynd i ffwrdd.”
Mae Richard Wyn Jones yn nodi bod “pobol ar y chwith yn wleidyddol” yn ceisio osgoi siarad am Seisnigrwydd, gan ei bortreadu yn “beryglus”.
Ond yn ei farn ef “allwch chi ddim rhoi eich pen yn y tywod” ac aros i Seisnigrwydd ddiflannu.
Mae’n dweud y bydd hunaniaeth Lloegr yn dal i ddylanwadu ar ein gwleidyddiaeth am flynyddoedd i ddod.