Fe lwyddodd y Cymry i sicrhau buddugoliaeth tros yr Hen Elyn yng Nghaerdydd, gan sgorio 40 o bwyntiau yn erbyn Lloegr am y tro cyntaf erioed.

Ac ar ôl trechu’r Gwyddelod a’r Albanwyr yn y ddwy ornest flaenorol, fe gafodd Alun Wyn Jones ei ddwylo mawr ar y Goron Driphlyg.