Bydd Cymru yn cael £740m o gyllid ychwanegol drwy’r fformiwla Barnett.
Yn ei gyllideb gyntaf ers y pandemig cyhoeddodd y Canghellor Rishi Sunak y bydd y Llywodraethau Datganoledig yn cael cyllid ychwanegol.
Tra bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £740m yn fwy bydd Llywodraeth yr Alban yn derbyn £1.2bn yn fwy a Gogledd Iwerddon yn derbyn £410m yn fwy.
Ond ymateb cymysg sydd i’r Gyllideb gan y pleidiau yng Nghymru gyda’r blaid Lafur yn dweud fod cyhoeddiadau yn rhy hwyr i nifer o fusnesau.
‘Cefnogi miliynau ledled Cymru’
“Drwy gydol y pandemig, mae Llywodraeth y DU wedi camu i mewn er mwyn cefnogi miliynau o bobol a bywoliaethau ledled Cymru,” meddai Rishi Sunak.
“Mae’r Gyllideb yn ategu’r gefnogaeth honno – gan sicrhau bod ein Cynllun Swyddi yn parhau drwy’r cam nesaf ein hadferiad.
“Rydym hefyd yn buddsoddi miliynau yn nhrefi a dinasoedd Cymru, seilwaith allweddol a diwydiannau gwyrdd a fydd yn hanfodol i dwf economaidd hirdymor.”
Cyhoeddodd y bydd mesurau cymorth Covid, gan gynnwys y cynllun ffyrlo sydd yn cefnogi 178,000 o bobol yng Nghymru, yn cael eu hymestyn.
Yng Nghymru cyhoeddodd y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn buddsoddi £4.8m yng Nghanolfan Hydrogen newydd yng Nghaergybi a bydd Canolfan Ragoriaeth Rheilffyrdd Fyd-eang yng Nghastell-nedd Port Talbot yn elwa o hyd at £30m.
Bydd cyllid o £58.7m hefyd ar gael yn gyflymach dros y pum mlynedd nesaf ar gyfer Bargen Ddinesig Bae Abertawe, Bargen Twf Gogledd Cymru a Bargen Twf Canolbarth Cymru.
Mae disgwyl y bydd y cynlluniau yma yng Nghymru yn creu bron i 13,000 o swyddi.
‘Cyllideb wych i Gymru’
“Ar ôl y flwyddyn anoddaf yn hanes Prydain, mae’r gyllideb yn ymestyn y gefnogaeth i Gymru i achub swyddi, buddsoddi mewn diwydiant a busnes,” meddai arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies,
“Mae ein hadferiad a’n heconomi yn y dyfodol yn dibynnu ar aros fel un Deyrnas Unedig.”
Dywedodd Mr Davies, ei fod am i Lywodraeth Cymru ddefnyddio’r arian ychwanegol i ymestyn cymorth busnes i gwmnïau o Cymru a rhewi cyfraddau’r dreth gyngor.
Adleisiwyd ei alwadau gan gyfarwyddwr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI), Ian Price, a ddywedodd y byddai’r Gyllideb yn diogelu’r economi ac yn rhoi hwb cychwynnol i adferiad.
A disgrifiodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart y Gyllideb fel un “wych i Gymru”.
“Bydd parhau â chymorth ffyrlo, cymorth hunangyflogedig a busnes, y codiad Credyd Cynhwysol, y toriad TAW lletygarwch a rhewi treth tanwydd yn rhoi sicrwydd hanfodol i bobol a busnesau yng Nghymru yn y misoedd i ddod,” meddai Simon Hart.
“Fel y gwelsom dros y flwyddyn ddiwethaf, nid yw cryfder y Deyrnas Unedig erioed wedi bod yn bwysicach i Gymru a byddwn yn parhau i ddarparu brechlynnau, profion Covid a chymorth y Lluoedd Arfog sy’n allweddol i godi cyfyngiadau ac ailagor economi Cymru.”
Ymateb Llywodraeth Cymru: “Dim byd o ran ychwanegiadau i’n cyllideb gyfalaf”
Dywedodd gweinidog cyllid Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans AoS, fod Mr Sunak wedi “gwneud y peth iawn” wrth ymestyn y pecyn cymorth i fusnesau, ond dywedodd hefyd nad oedd “unrhyw arwydd o gymorth hirdymor go iawn i’r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas” gan gynnwys ariannu gofal cymdeithasol.
Dywedodd Ms Evans ar Twitter: “Cafodd y Canghellor gyfle i wneud y codiad credyd cynhwysol ychwanegol yn barhaol, ond wnaeth e ddim. Ac mae’r newidiadau tymor hwy i lwfansau treth personol yn dreth lechwraidd a fydd yn taro’r rhai â’r cyflogau isaf galetaf.
“Mae’r Canghellor wedi gwaro arian, ond dim ohono ar fuddsoddiad cyfalaf gan y llywodraeth. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn cael dim byd o ran ychwanegiadau i’n cyllideb gyfalaf.”
Dywedodd Ms Evans hefyd ei bod yn “siomedig” nad oedd sôn am arian i sicrhau diogelwch 2,000 o domenni glo yng Nghymru yn dilyn tirlithriad o 60,000 tunnell y llynedd yn y Rhondda.
Mae Rebecca Evans wedi cyhoeddi heddiw y bydd y cynllun sy’n golygu nad yw busnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru yn gorfod talu ardrethi yn cael ei estyn am 12 mis arall, ac y bydd cyfnod gostyngiad dros dro y Dreth Trafodiadau Tir yn cael ei ymestyn am 3 mis arall, fel y bydd yn dod i ben ar 30 Mehefin 2021.
Ymateb Plaid Cymru
Wrth siarad â Radio 5 Live dywedodd Ben Lake, Aelod Senddol Plaid Cymru dros Geredigion, fod ganddo “emosiynau cymysg” am y gefnogaeth i Gymru.
“Ar un llaw, mae llawer o’r mesurau brys a gynlluniwyd i gefnogi busnesau a theuluoedd drwy gydol y pandemig i’w croesawu,” meddai Ben Lake.
“Yn amlwg, cyfeiriodd y Canghellor at y fformiwla Barnett… ond nid yw hynny’n weithred fawreddog dim ond mecanwaith awtomatig y trysorlys a gynlluniwyd nôl yn y saithdegau yw hyn, does dim arbennig na phwrpasol yma – doedden nhw ddim yn mynd o gwmpas ac yn dweud eu bod nhw am roi £740m i Gymru – penderfyniad yn seiliedig ar y cymwyseddau yn Lloegr yw hyn.
“Fy meirniadaeth a’n siom i fyddai nad yw’n ymddangos bod y lefelu i fyny wedi ei adlewyrchu yn y gyllideb hon.”