Mae gwleidyddion wedi rhoi pwysau cynyddol ar y Prif Weinidog i ail-ystyried torri cymorth i Yemen.
Daw hyn wedi i Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gyhoeddi y bydd yn rhoi £87m o gymorth i Yemen eleni, i lawr o £160m y llynedd a £200m yn 2019.
Mae’r wlad yn y Dwyrain Canol yn wynebu newyn wedi i’r pandemig waethygu’r argyfwng dyngarol yno.
Mae’r gwrthbleidiau hefyd wedi beirniadu Llywodraeth y Deyrnas Unedig o barhau i gyflenwi arfau i Saudi Arabia, sydd wedi cefnogi’r rhyfel yn Yemen ers 2015.
‘Newyn gwaethaf mae’r byd wedi ei weld ers degawdau’
“Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi dweud bod Yemen yn wynebu’r newyn gwaethaf mae’r byd wedi’i weld ers degawdau,” meddai arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer.
“Dywedodd yr ysgrifennydd cyffredinol ddydd Llun y byddai torri cymorth, yn ei eiriau ef, yn lladd pobol Yemen.
“Sut ar y ddaear y gall y prif weinidog gyfiawnhau gwerthu arfau i Saudi Arabia a thorri cymorth i bobol sy’n marw yn Yemen?”
Mae Boris Johnson wedi beio’r pandemig am y penderfyniad i dorri gwariant.
“Rwy’n credu y bydd pobol y wlad hon yn meddwl bod ein blaenoriaethau’n iawn,” meddai mewn ymateb i Keir Starmer.
Beirniadodd y Prif Weinidog yr arweinydd Llafur o beidio â mynd i’r afael â “chwestiynau’r awr”.
“Gallai fod wedi gofyn unrhyw beth am y pandemig. Yn hytrach, mae wedi canolbwyntio ei gwestiynau’n gyfan gwbl er budd pobol Yemen,” meddai Boris Johnson.
Ymhlith eraill sydd wedi galw am atal y cynlluniau i dorri cymorth mae cyn-weinidog datblygu tramor y Ceidwadwyr, y Farwnes Chalker.
“Ni ddylem fod yn torri cymorth i Yemen heb sôn am yr holl wledydd eraill,” meddai wrth Dŷ’r Arglwyddi.
“Mae wir angen i ni edrych ar hyn eto.”
Mae adwaith Boris Johnson hefyd wedi ei gymharu i’r Arlywydd Biden sydd eisoes wedi atal cefnogaeth yr UDA i’r gwrthdaro drwy wahardd allforio rhai arfau a chynnig rhagor o gymorth i bobol yn Yemen.
Mae pob gwlad arall yn y G7 hefyd wedi cynyddu cymorth i Yemen mewn ymateb i’r pandemig; y Deyrnas Unedig yw’r unig gyfundrefn sydd wedi torri’r cymorth.