Mae’r gwledydd Celtaidd – sy’n cynnwys Cymru, Llydaw, Iwerddon a Chernyw – yn pryderu fod tymheredd y Môr Celtaidd a Môr yr Iwerydd yn cynhesu yn sgil effaith cynhesu byd eang.

Yn ôl adolygiad gwyddonol ‘Advances in Atmosphere Sciences’ gan Ganolfan Ryngwladol Gwyddorau’r Hinsawdd a’r Amgylchedd (ICCES) mae tymheredd y moroedd wedi codi pum mlynedd yn olynol bellach.

Mae’r ymgyrch dros annibyniaeth i Lydaw, ‘NHU, votre média breton indépendant‘, nawr wedi dwyn sylw at eu gofidion am ganfyddiadau’r ymchwil drwy gysylltu ag arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, AoS, y Blaid Werdd, y BBC yn yr Alban a phapur yr Irish Times yn Iwerddon

“Y môr yw ein dyfodol, ac mae Môr yr Iwerydd a’r Môr Celtaidd y cynhesu. Mae’r gwledydd Celtaidd yn ofidus iawn am y cynhesu byd eang hwn,” meddai’r mudiad ar Trydar.

Mae Llydaw yn cael ei ymdrochi gan Lif y Gwlff o bryd i’w gilydd yn sgil cerrynt sy’n tarddu o arfordir Florida yn yr Unol Daleithiau ac yn croesi Gogledd yr Iwerydd.

2019 oedd y flwyddyn gynhesaf sydd erioed wedi cael ei chofrestru, yn ôl yr ymchwil.

Dywedodd Lijing Cheng, un o awduron yr ymchwil, fod tymheredd y moroedd ar y Ddaear yn 2019 yn 0,075°C yn uwch na’r tymheredd cymedrig a fesurwyd yn ystod y cyfnod rhwng 1981 a 2010.

Dywedodd bod y cynnydd yn nhymheredd y môr rhwng 1987 a 2019 bum gwaith yn uwch na rhwng 1955 a 1986.

Mae’r Môr Celtaidd eisoes yn gweld yr effeithiau, gyda chynnydd sylweddol mewn erydiad a chyflymder ac amlder gwyntoedd, tra bod bioamrywiaeth yn cael ei effeithio hefyd.