Mae Plaid Neil McEvoy, Propel, wedi’i chofrestru’n swyddogol gyda’r Comisiwn Etholiadol.

Golyga hyn y bydd ymgeiswyr y blaid yn cael sefyll yn etholiadau’r Senedd ym mis Mai.

Mae’r blaid eisoes wedi dewis rhai ymgeiswyr, gyda Phencampwr Anabledd Cyngor Gwynedd, Peter Read, yn sefyll yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd, tra bod pedwar ymgeisydd ar gyfer ardal Gorllewin De Cymru hefyd wedi cael eu henwi.

Addewid i “beidio gwneud gwleidyddiaeth fel arfer”

Dywedodd Neil McEvoy, Arweinydd Propel, na fydd ei blaid yn “gwneud gwleidyddiaeth fel yr arfer”.

“Mae gennym fantra yn Propel, sef ‘peidio gwneud gwleidyddiaeth fel yr arfer’,” meddai.

“Dydyn ni ddim yma i fod fel y pleidiau eraill. Rydym yn dod â rhywbeth gwahanol iawn.

“Rydym yn ymgyrchwyr sy’n awyddus i roi terfyn ar y llygredd a’r anallu ym mywyd cyhoeddus Cymru.

“Byddwn yn cyhoeddi polisïau i dyfu economi Cymru a gwneud ein gwlad yn gyfoethocach.”

“Dod a’r cyfyngiadau symud yng Nghymru i ben”

Mae’r blaid yn dweud ei bod yn benderfynol o “ddod a’r cyfyngiadau symud yng Nghymru i ben”.

Ychwanegodd Neil McEvoy: “Mae’n rhaid i ni ddechrau drwy ddod a’r cyfyngiadau symud yng Nghymru i ben.

“Ni fydd yr unig blaid yn etholiadau mis Mai a fydd yn gwneud achos gwyddonol a meddygol dros roi terfyn ar gyfyngiadau symud anhygoel o niweidiol Mark Drakeford.

“Rydyn ni’n mynd i roi’r dewis i bobol ddod â’r cyfyngiadau symud i ben, achub bywydau ac adfer rhyddid.”