Mae Rishi Sunak, Canghellor y Deyrnas Unedig, wedi cyhoeddi £740m o gyllid ychwanegol i Gymru.

Yn ei gyllideb cyntaf ers y pandemig, safodd y Canghellor am ychydig dros awr i gyhoeddi’r manylion yn Nhŷ’r Cyffredin.

Dywedodd y byddai’r arian ychwanegol yn dod drwy’r fformiwla Barnett.

Cyhoeddodd ‘gytundebau dinas a thwf’ yn Ayrshire, Argyll a Bute, a Falkirk, gan ychwanegu y bydd tri arall yng Ngogledd Cymru, Canolbarth Cymru, a Bae Abertawe.

Ychwanegodd y bydd cyllid ar gyfer canolfan hydrogen Caergybi, y Ganolfan Ragoriaeth Rheilffyrdd Byd-eang yng Nghastell-nedd Port Talbot, Parth Pontio Ynni Aberdeen, a’r Hwb Tanddwr Byd-eang a chytundeb pontio Môr y Gogledd.

Dywedodd Mr Sunak: “Drwy fformiwla Barnett, mae’r penderfyniadau rwy’n eu gwneud yn y Gyllideb hon hefyd yn cynyddu’r cyllid ar gyfer y llywodraethau datganoledig, gyda £1.2 biliwn i Lywodraeth yr Alban, £740 miliwn i Lywodraeth Cymru a £410 miliwn ar gyfer Gogledd Iwerddon.”Mae’r Canghellor wedi cyhoeddi y bydd y cynllun ffyrlo yn cael ei ymestyn tan ddiwedd mis Medi.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae 178,000 o bobol yng Nghymru ar y cynllun saib swyddi sydd yn talu 80% o gyflogau am oriau na weithiwyd.

Dywedodd: “Wrth i fusnesau ailagor, byddwn yn gofyn iddynt gyfrannu ochr yn ochr â threthdalwr i dalu eu gweithwyr.

“Ni fydd unrhyw beth yn newid tan fis Gorffennaf, pan fyddwn yn gofyn am gyfraniad bach o 10% ac 20% ym mis Awst a mis Medi.”

Mae’r cynllun wedi diogelu 11.2 miliwn o swyddi ar draws y Deyrnas Unedig ers ei gyflwyno gyntaf fis Mawrth y llynedd.

Mae hefyd wedi cadarnhau y bydd y cynnydd wythnosol o £20 i’r budd-dal credyd cynhwysol yn cael ei ymestyn tan fis Medi ac y bydd yr isafswm cyflog yn cynyddu i £8.91 yr awr o fis Ebrill ymlaen.

Dywedodd y Canghellor y bydd y gefnogaeth i weithwyr hunangyflogedig hefyd yn parhau tan fis Medi. Bydd y Llywodraeth yn darparu cymorth o 80% o’r elw masnachu cyfartalog i weithwyr hunangyflogedig.

Benthyg £355 biliwn eleni

Wrth drafod cyflwr economi’r Deyrnas Unedig, dywedodd fod Llywodraeth y DU wedi benthyg £355 biliwn eleni, y lefel uchaf ers yr ail ryfel byd. Ychwanegodd fod disgwyl i hyn ostwng i £234 biliwn y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Rishi Sunak y bydd yn cymryd “amser hir i’r Deyrnas Unedig a’r byd i gyd wella o’r sefyllfa economaidd eithriadol hon.”

Does dim disgwyl i’r economi fod yn ôl i’r hyn oedd hi cyn Covid tan ganol 2022.

Dywedodd y Canghellor fod dros 700,000 o bobol wedi colli eu swyddi ers mis Mawrth 2020 a bod yr economi wedi crebachu 10%, y gostyngiad mwyaf mewn mwy na 300 mlynedd.

“Yn gyntaf, byddwn yn parhau i wneud beth bynnag sydd ei angen i gefnogi pobol a busnesau Prydain drwy’r argyfwng.

“Yn ail, unwaith y byddwn ar y trywydd cywir i wella, bydd angen i ni ddechrau datrys yr arian cyhoeddus – ac rwyf am fod yn onest heddiw am ein cynlluniau i wneud hynny.

“Ac, yn drydydd, yn y Gyllideb heddiw rydym yn dechrau ar y gwaith o adeiladu ein heconomi ar gyfer y dyfodol.”