Mae nifer y cleifion Covid-19 yn Ysbyty Gwynedd wedi gostwng i 39.

Wythnos yn ôl dywedodd y Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fod 75 claf yn derbyn triniaeth ar gyfer yr haint, a bod 49 o’r achosion hyn yn gysylltiedig â’r clwstwr newydd.

Golyga hyn roedd mwy o gleifion Covid yn cael triniaeth yn yr ysbyty ar y pryd nag ar unrhyw adeg arall yn ystod y pandemig.

Wrth i’r ysbyty geisio rheoli’r clwstwr o achosion penderfynwyd cynyddu capasiti Ysbyty Gwynedd drwy ohirio llawdriniaethau dewisol.

Eglurodd Mandy Jones, Cyfarwyddwr Nyrsio yn Ysbyty Gwynedd bod y bwrdd iechyd yn parhau i gymryd “camau priodol” i atal y feirws rhag lledaenu ymhellach.

“Mae’r holl gleifion sydd ag achosion tybiedig neu achosion sydd wedi’u cadarnhau o Covid-19 yn parhau i dderbyn gofal ar wardiau dynodedig a chânt eu hynysu’n briodol,” meddai.

“Rydym yn cynnal cyfarfodydd dyddiol sy’n cynnwys tîm amlddisgyblaethol o uwch arbenigwyr yn cynnwys aelodau’r Bwrdd Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Gwynedd sy’n cynghori ac yn sicrhau bod yr holl fesurau rheoli heintiau gofynnol ar waith i leihau trosglwyddo pellach.

“Mae hyn yn cynnwys mesurau atal heintiau digonol a phrofi staff a chleifion yn rheolaidd.

“Rydym yn hyderus bod gennym y mesurau ar waith i sicrhau na fydd y digwyddiad hwn yn risg gynyddol sylweddol o ran y cyfraddau amlder yn ein cymunedau lleol.”

Mae cyfyngiadau’n parhau mewn lle o ran ymweld â chleifion yn yr ysbyty, dim ond pobol ag apwyntiadau ac sydd wedi cael caniatâd o dan amgylchiadau arbennig sy’n cael ymweld o hyd.

Disgwyl canfod mwy o achosion o Covid-19 yn Ysbyty Gwynedd

Mwy o gleifion Covid yn cael triniaeth yn Ysbyty Gwynedd nag ar unrhyw adeg arall yn ystod y pandemig

Cynyddu capasiti Ysbyty Gwynedd drwy ohirio llawdriniaethau dewisol

Bydd llawdriniaethau brys ac apwyntiadau cleifion allanol yn parhau