Mae dros £1m wedi ei godi yng Nghymru i gefnogi gwledydd bregus yn ystod y pandemig Covid-19, ond mae’r sefyllfa yn parhau i fod yn “drychinebus”, yn ôl elusennau blaenllaw.
Mae’r adroddiad gan elusennau y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (DEC) yn dangos bod y pandemig wedi gwaethygu’r sefyllfa ddyngarol sydd eisoes yn effeithio ar chwech o wladwriaethau mwyaf bregus y byd.
Er bod bron i flwyddyn bellach ers i Covid-19 gael ei ddatgan yn bandemig byd-eang, mae gweithwyr cymorth yn disgwyl i’r sefyllfa ddirywio ymhellach yn y gwledydd hyn yn ystod y misoedd nesaf.
“Mae’n anhygoel bod dros filiwn o bunnoedd eisoes wedi ei godi at yr apêl yma yng Nghymru,” meddai Rachel Cable, Cadeirydd y DEC yng Nghymru.
“Mae ein diolch ni’n fawr i’r cyhoedd ac i’r sefydliadau sydd wedi rhoi mor hael at yr achos.
“Ond tra bod llygedyn o olau yn dechrau ymddangos ben arall y twnnel yma yng Nghymru, yn saith o wledydd mwyaf bregus y byd mae’r sefyllfa yn gwaethygu’n ddyddiol.”
Y gwladwriaethau dan sylw yn yr adroddiad yw Affganistan, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Somalia, De Swdan, Syria, yr Yemen, a gwersylloedd ffoaduriaid Rohingya yn Bangladesh.
Ers i Apêl Coronafeirws y DEC gael ei lansio fis Gorffennaf y llynedd, mae £36m wedi’i godi, gan gynnwys £10m mewn arian cyfatebol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Ond mae’r adroddiad yn dweud bod arian cymorth yn lleihau ar yr union adeg mae’r angen amdano’n cynyddu.
‘Popeth yn eu herbyn’
Eglura Saleh Saeed, prif weithredwr y DEC, fod y gwledydd hyn yn ymdopi â’r pandemig “orau y gallant” ond mae’n rhybuddio bod “popeth yn eu herbyn”.
“Mae sgil-effeithiau’r pandemig wedi niweidio economïau, gan wneud pobol dlotaf y byd yn dlotach fyth,” meddai.
“Mae Cyfarwyddwyr Gwledydd Aelod-Elusennau DEC yn poeni y bydd yn rhaid ail-flaenoriaethu pa raglenni achub-bywyd sy’n cael eu hariannu a pha bobl fregus ddylai dderbyn cymorth dyngarol.
“Heb gymorth parhaus, bydd nifer o fywydau yn y fantol – nid yn unig oherwydd Covid-19, ond oherwydd effaith economaidd y feirws.”
Mae’r adroddiad yn dangos bod derbyn cymorth yn gwneud gwahaniaeth sylweddol.
Mewn arolwg o aelodau DEC, roedd 88% yn cytuno neu’n cytuno’n gryf fod gweithgarwch dyngarol wedi atal lledaenu Covid-19 yn y wlad maen nhw’n gweithio ynddi.
Ar drothwy newyn
Mae rhannau o Dde Swdan a’r Yemen bellach ar drothwy newyn, ac mae risg gynyddol yn Affganistan a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo oherwydd effeithiau economaidd y pandemig.
Mae’r adroddiad hefyd yn canfod fod y sefyllfa ar ei gwaethaf yn rhai o’r gwledydd hyn ers degawd.
Roedd bron pawb a gafodd eu holi (98%) yn cytuno neu’n cytuno’n gryf fod y pandemig wedi gwaethygu’r argyfwng dyngarol yn y gwledydd maen nhw’n gweithio ynddi, a thri chwarter (73%) yn dweud bod y sefyllfa ar ei lefel waethaf ers deng mlynedd.
Roedd 96% hefyd o’r farn fod effaith economaidd Covid-19 wedi lleihau gallu pobol i brynu bwyd a hanfodion eraill, ac roedd 83% yn cytuno y byddai miloedd o bobol yn debygol o farw o newyn eleni heb ragor o gymorth ariannol.
Er bod brechlynnau yn “hynod o bwysig”, mae’r adroddiad yn cydnabod y bydd hi’n heriol ac yn araf i’w darparu yn y gwledydd hyn ac nad yw’n ddatrysiad i holl sgil-effeithiau’r pandemig yng nghymunedau mwyaf bregus y byd.
Daw’r adroddiad i’r casgliad fod yr angen dyngarol yn cynyddu a’r arian yn lleihau, tra bydd angen hyfforddiant ar weithwyr rheng flaen a darbwyllo pobol i beidio â chredu straeon nad ydyn nhw’n wir.
Bydd hefyd angen cymorth ychwanegol ar y cymunedau megis grantiau, talebau bwyd a phecynnau bwyd uniongyrchol er mwyn lleihau lefelau llwgu ac osgoi newyn.