Mae disgwyl sesiwn danllyd yn y Senedd yn ddiweddarach heddiw (dydd Mercher, Mawrth 3), pan fydd y gwrthbleidiau yn rhoi cynnig ar ddryllio cynlluniau llygredd y Llywodraeth.
O fis Ebrill ymlaen, mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio cyfyngu ar y defnydd o slyri ledled y wlad.
Eu dadl hwythau yw bod yn rhaid gweithredu oherwydd y llygredd sy’n cael ei achosi – sydd yn ei dro yn cael effaith ar bysgod, bywyd gwyllt ac iechyd y cyhoedd, medden nhw.
Er bod grwpiau amgylcheddol a physgotwyr yn croesawu’r cam, mae ffermwyr yn frwd yn erbyn y cynlluniau.
Ac wrth ymateb i’r gwrthwynebiad yma, mae Llŷr Gruffydd, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, wedi cynnig bod y cynlluniau yn cael eu gwrthdroi. Dyma fydd testun y ddadl brynhawn heddiw.
Mae’r Aelod o’r Senedd yn pryderu bod rheolau yn rhy llawdrwm, ac y bydd ffermwyr yn cael eu gorfodi i lygru ar adegau er mwyn cwrdd â thargedau anhyblyg.
“Yr ateb anghywir”
“Mae Plaid Cymru yn cefnogi rheoleiddio llygredd afonydd,” meddai.
“Ond y broblem sydd gennym yw bod Llywodraeth Cymru – trwy’r rheoliadau arfaethedig yma – yn rhoi’r ateb anghywir i’r cwestiwn cywir.
“Dw i’n gwrthwynebu’r rheoleiddiadau yma nid oherwydd nad oes problemau ansawdd dŵr mewn rhai rhannau o Gymru,” meddai wedyn.
“Dw i’n eu gwrthwynebu gan nad ydynt yn ymarferol.
“Mi fydd sgil effeithiau amgylcheddol, economaidd, a chymdeithasol. A ni ddylen nhw gael eu rhuthro trwodd yn ystod diwrnodau olaf y Senedd hon.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Cyflwyno’r rheoliadau newydd yw’r peth cywir i’w wneud er mwyn atal llygredd rhag effeithio ar ein dŵr, oherwydd ymarferion amaethyddol gwael,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cyrmu.
“Bydd y rheoliadau newydd yn helpu amddiffyn enw’r sector amaethyddol yn nhermau’r amgylchedd, a hefyd yn amddiffyn yr amgylchedd am genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.”
Y rheolau a’r bleidlais
Bydd y newidiadau yn cael eu cyflwyno yn raddol dros dair blynedd a hanner, ac mae disgwyl y bydd hyn yn effeithio ffermydd da godro yn bennaf.
Dan y drefn newydd, bydd ffermwyr yn cael eu rhwystro rhag rhoi slyri ar eu caeau am dri mis y flwyddyn – o ddiwedd hydref ymlaen – er mwyn osgoi’r misoedd gwlypaf.
Mae ffermwyr yn dadlau y gallai’r rheol hon waethygu’r sefyllfa, oherwydd bydd rhai yn diweddu fyny yn gwaredu cyflenwadau, munud olaf, cyn i’r cyfyngiadau ddod i rym.
Cafodd dadl arall ei chynnal am y mater hwn fis diwethaf. Y Ceidwadwyr wnaeth arwain y ddadl bryd hynny.
Rebelio ar y gweill?
Mae’r gwrthbleidiau yn gobeithio y bydd Kirsty Williams a Dafydd Elis-Thomas – dau weinidog nad ydyn nhw o’r Blaid Lafur ac sy’n cynrychioli etholaethau gwledig – yn ochri â nhw.
Fore heddiw, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol – plaid Kirsty Williams – wedi galw am ailystyried y cynlluniau.