Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £30m ychwanegol ar gyfer busnesau twristiaeth, lletygarwch a hamdden ac i fusnesau yn y gadwyn gyflenwi gysylltiedig.

Daw hyn ar ôl i Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, gyhuddo Llywodraeth Cymru o anwybyddu’r diwydiannau manwerthu, lletygarwch a thwristiaeth.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Gogledd Cymru, y gallai gwerth £150m o grantiau gael eu neilltuo i fusnesau trwy gynllun Ardrethi Annomestig (NDR) Llywodraeth Cymru os caiff cyfyngiadau’r coronafeirws eu hymestyn.

Byddai hynny yn golygu bod pob busnes lletygarwch, twristiaeth a hamdden a siopau nad ydyn nhw’n hanfodol sy’n talu ardrethi annomestig yn cael taliad ychwanegol o hyd at £5,000.

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un hynod o anodd i bawb ac rydym yn ymwybodol o’r heriau sylweddol sy’n wynebu ein sector lletygarwch, twristiaeth a hamdden,” meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, Trafnidiaeth a’r gogledd.

“Ffocws y rownd ariannu ddiweddaraf hon gyda’i £30m o arian ychwanegol ar gyfer busnesau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth yw’r busnesau bach, canolig a mawr yn y sector a’r nod penodol o ddiogelu cymaint o swyddi â phosibl.

“Cefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnesau gan gynnwys i’r sector lletygarwch, hamdden a thwristiaeth drwy gydol y pandemig fu’r un fwyaf hael o holl wledydd y Deyrnas Unedig, ac rwy’n falch ein bod wedi gallu rhoi dros £1.9bn yn uniongyrchol yng nghyfrifon banc ein busnesau.

“Gyda chyfyngiadau’n debygol o barhau am ychydig amser eto rydym wrthi’n adolygu ein hopsiynau ar gyfer darparu cymorth pellach.

“Mae’n dda gen i gadarnhau nawr y byddwn yn neilltuo £150m o gymorth ychwanegol i fusnesau sy’n talu ardrethi annomestig os caiff y cyfyngiadau eu hestyn yn adolygiad nesa’r coronafeirws ar 12 Mawrth, gan gynnwys i ficro-fusnesau.”

“Ymrwymiad di-dor i’r sector”

“Mae’r pandemig wedi cael effaith anghymesur ar y sector lletygarwch, hamdden a thwristiaeth a’r bobl y mae’n eu cyflogi,” meddai Rebecca Evas, Ysgrifennydd Cyllid Cymru.

“Mae’r gronfa newydd hon, a’r arian ychwanegol y byddwn yn ei neilltuo pe bai’r cyfyngiadau’n cael eu hymestyn, yn ymateb i gam diweddaraf y pandemig ac yn arwydd o’n hymrwymiad di-dor i’r sector, gan eu helpu i oroesi’r cyfnod anoddaf hwn nes eu bod mewn sefyllfa i ailagor eu drysau’n ddiogel eto.”

Cyhuddo Llywodraeth Cymru o anwybyddu’r diwydiannau manwerthu, lletygarwch a thwristiaeth

Andrew RT Davies yn galw am “ymestyn y gwyliau ardrethi busnes i’r flwyddyn nesaf”