Bydd cyfnod clo torri’r cylch (circuit break) yn dod i rym am dair wythnos ar Ynys Manaw heddiw (dydd Mercher, Mawrth 3).

Daw hyn wedi i’r ynys fwynhau cyfnod o ryddid cymharol rhag cyfyngiadau.

Bydd y cyfyngiadau newydd yn ei gwneud hi’n ofynnol i bobol aros gartref ac eithrio am resymau eithriadol megis ar gyfer bwyd, ymarfer corff neu apwyntiadau meddygol.

“Mae yna drosglwyddiad yn ein cymuned na allwn ei weld ac nad ydym yn ei ddeall,” meddai’r llywodraeth yno.

“Gallwn weld yn awr nad yw hyn yn gwpl o achosion ynysig ond yn lledaeniad mwy cyffredinol.”

Baner Ynys Manaw

Cyfnod clo Ynys Manaw wedi dod i ben

Trigolion yn dweud eu bod nhw’n teimlo’n “obeithiol” ynghylch y dyfodol