Mae Cymdeithas Clefydau Niwronau Motor wedi cyhoeddi maniffesto ar gyfer etholiadau’r Senedd ar Fai 6, gan nodi pedwar maes allweddol.

Mae clefyd niwronau motor (MND) yn glefyd angheuol, sydd yn datblygu’n gyflym ac yn effeithio ar yr ymennydd a llinyn asgwrn y cefn.

Mae’r clefyd yn lladd traean o’i ddioddefwyr o fewn blwyddyn, a dros hanner o fewn 2 flynedd o gael diagnosis a does dim iachâd ohono.

Gwella safonau triniaeth, gwasanaethau a chymorth

Dywed y Gymdeithas fod angen i Lywodraeth Cymru greu ymagwedd strategol hirdymor tuag at wella safonau triniaeth, gwasanaethau a chymorth drwy:

  • ymrwymo i fuddsoddi mewn Gwasanaethau Niwrolegol ar draws Iechyd a Gofal Cymdeithasol i fodloni anghenion pobl sydd yn byw gydag MND yng Nghymru;
  • datblygu a rhoi system genedlaethol ar waith ar gyfer casglu, cydosod a chyhoeddi canlyniadau data ar wasanaethau niwrolegol, gan weithio gyda’r gymuned ymchwil, pobl â chyflyrau niwrolegol, yn cynnwys MND, a’r trydydd sector.

Gwelliannau i Ofal Iechyd Parhaus

Mae’r Gymdeithas yn dweud bod angen gwelliannau i ofal iechyd parhau, gan alw ar Lywodraeth Cymru i:

  • gymryd camau brys i sicrhau nad yw asesiad GIP yn brofiad ‘dirdynnol’ i unigolion a theuluoedd;
  • cyhoeddi’r Fframwaith Gweithredu Cenedlaethol diwygiedig ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus yng Nghymru;
  • mynd i’r afael â chyfyngiadau’r Offeryn Cefnogi Penderfyniadau;
  • cynyddu argaeledd staff nyrsio a gweithwyr gofal wedi eu hyfforddi.

Cynyddu cyllid

Yn ôl y Gymdeithas, dydy nifer helaeth o bobol sy’n byw â chlefyd niwronau motor ddim yn gallu fforddio neu’n methu cael mynediad at gymorth ar gyfer addasiadau angenrheidiol.

Maen nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gynyddu cyllid ar gyfer awdurdodau lleol i ddarparu addasiadau i gartrefi dros y pum mlynedd nesaf.

Dywed hefyd y dylid dyrannu cyllid i helpu partneriaethau lleol i barhau i integreiddio gwasanaethau a datblygu systemau rhannu data.

Cymorth i ofalwyr di-dâl

Daeth arolwg Gwella Gofal MND Cymdeithas Clefydau Niwronau Motor yn 2019 i’r casgliad bod 33% o ofalwyr yn treulio dros 110 o oriau’r wythnos yn gofalu, ond nad yw 45% o’r rhain yn derbyn unrhyw fudd-daliadau.

Ar ben hyn, roedd 76% o ofalwyr heb gael asesiad gofalwyr, tra bod 62% o ofalwyr heb gael unrhyw seibiant.

Er mwy mynd i’r afael â hyn, mae maniffesto’r Gymdeithas yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

  • ddylanwadu ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau adolygiad a chynnydd yng Nghyfradd Lwfans Gofalwyr i lefel sydd yn rhoi cyfrif gwirioneddol am werthoedd a chyfraniad gofalwyr di-dâl;
  • monitro awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn cefnogi hawliau gofalwyr trwy’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) trwy gynnig Asesiad Gofalwyr i bob gofalwr sydd yn galluogi pecynnau cymorth yn cynnwys seibiant;
  • cydnabod a buddsoddi mewn sefydliadau trydydd sector sydd yn rhoi cymorth allweddol i ofalwyr, yn arbennig yn ystod y cyfnod heriol hwn.