Mae Roger Torrent, Llefarydd Senedd Catalwnia, wedi cael ei gyhuddo o anufudd-dod ar ôl rhoi’r hawl i aelodau seneddol bleidleisio mewn refferendwm annibyniaeth sy’n cael ei ystyried yn anghyfreithlon gan Sbaen.

Cafodd y refferendwm ei gynnal ddwy flynedd yn ôl.

Mae Torrent a thri aelod arall o swyddfa’r siambr wedi’u hamau o fod yn anafudd i Lys Cyfansoddiadol Sbaen drwy basio cynigion yn 2019 a gafodd eu cefnogi gan bleidiau o blaid annibyniaeth.

Roedd un cynnig yn dweud y byddai’r Senedd yn parhau i fynnu mai penderfyniad y bobol fyddai annibyniaeth neu beidio.

Ond mae’r Llys Cyfansoddiadol yn mynnu bod y pleidleisiau’n groes i bleidleisiau blaenorol yn atal cynnal refferendwm.

Mae Roger Torrent yn aelod o Blaid Chwith Gweriniaethol Catalwnia.

Er iddo gael ei gyhuddo, mae’n mynnu na fydd e’n rhoi’r gorau i’r frwydr i sicrhau annibyniaeth.

Fe yw’r ffigwr diweddaraf o blaid annibyniaeth i wynebu cyhuddiadau.

Mae ei ragflaenydd Carme Forcadell yn y carchar am annog terfysg wrth roi’r hawl i aelodau seneddol ddatgan annibyniaeth yn y refferendwm yn 2017.

Y llynedd, cafodd yr Arlywydd Quim Torra ei ddiswyddo ar ôl i’r Goruchaf Lys gynnal dedfryd flaenorol o anafudd-dod ar ôl iddo wrthod tynnu baneri melyn o blaid annibyniaeth oddi ar adeiladau cyhoeddus.

Er nad oes disgwyl i Roger Torrent gael ei garcharu, fe allai gael ei wahardd rhag bod mewn swydd gyhoeddus am rai blynyddoedd.

Ceisio dileu breintiau carcharorion

Yn y cyfamser, mae erlynydd Sbaen am geisio dileu breintiau carcharorion o blaid annibyniaeth i Gatalwnia.

Mae naw o bobol dan glo ers tair blynedd am eu rhan yn refferendwm 2017 ac maen nhw’n cael eu hystyried yn garcharorion risg isel, sy’n golygu bod modd iddyn nhw adael y carchar i weithio yn ystod y dydd a dychwelyd i’w celloedd i gysgu ac maen nhw hefyd yn gallu treulio penwythnosau yn eu cartrefi eu hunain.

Y carcharorion dan sylw yw Dolors Bassa, Carme Forcadell, Oriol Junqueras, Jordi Cuixart, Jordi Sanchez, Raul Romeva, Jordi Turull, Josep Rull a Quim Forn.

Mae llys eisoes wedi gwrthod cais i ddileu’r breintiau ond mae’r erlynydd am droi at lys uwch i apelio gan geisio sicrhau dedfrydau o bum mlynedd a mwy o garchar.