Mae Plaid Cymru yn galw ar Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, i ddefnyddio’r Gyllideb i “fagu hyder yn ein hadferiad economaidd”.

Mae Ben Lake, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Geredigion, yn galw arno i gefnogi pobol fregus neu’r rhai sydd dan anfantais.

Dywed y gallai wneud hyn drwy unioni “gwallau sylfaenol” yn Nghynllun Cefnogi Incwm yr Hunangyflogedig, yn ogystal â “gwneud y cynnydd o £20 i Gredyd Cynhwysol yn barhaol”.

Mae eisoes wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gynyddu pwerau benthyca Cymru.

Aeth yn ei flaen i ddweud bod y Canghellor yn ymwybodol fod “gafael San Steffan dros yr economi wedi creu’r anghydraddoldeb rhanbarthol gwaethaf yn y byd gorllewinol”.

“Heddiw yw cyfle’r Canghellor i fagu hyder yn ein hadferiad economaidd,” meddai Ben Lake.

“Mae hynny’n golygu unioni’r gwallau sylfaenol yn y cynllun i’r hunangyflogedig.

“Mae’n golygu gwneud y cynnydd o £20 i Gredyd Cynhwysol yn barhaol.

“Ac yn hollbwysig, mae’n golygu rhoi grym i’n cymunedau, nid rhoi rhwydd hynt i Whitehall gymryd penderfyniadau ar ein rhan.

“Mae gafael San Steffan dros ein heconomi wedi creu’r anghydraddoldeb rhanbarthol gwaethaf yn y byd gorllewinol – gan grynhoi cyfoeth yn Ne-Ddwyrain Lloegr tra bod Cymru yn dioddef tlodi.

“Mae’n gwybod hefyd mai am yr union resymau hynny y mae gan Gymru gyfrifoldeb penodol dros ddatblygu economaidd i ddechrau.

“Mae ganddo gyfle heddiw i roi ideoleg o’r neilltu a dangos fod ganddo hyder yn ein cymunedau i adfer o’r argyfwng hwn.

“Rwy’n ei annog i wrthdroi’r penderfyniad trychinebus i ganoli’r cronfeydd Rhannu Ffyniant a Lefelu i Fyny yn San Steffan a rhoi i Gymru’r pwerau benthyca y mae arnom eu hangen i fuddsoddi yn ein dyfodol.”

San Steffan

Beth sydd i’w ddisgwyl yng Nghyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig?

Adroddiadau bod Rishi Sunak yn bwriadu ymestyn cyfres o fesurau cymorth Covid, fel y cynllun ffyrlo, sydd i fod i ddod i ben yn fuan