Mae Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, yn dweud bod cyfaddefiad Alex Salmond am ei “ymddygiad amhriodol iawn” wrthi yn “foment yn fy mywyd na fyddaf byth yn ei hanghofio”.

Ond mae hi’n mynnu na wnaeth hi ymyrryd yn ymchwiliad Llywodraeth yr Alban i’w rhagflaenydd.

Daw hyn wrth i Nicola Sturgeon roi tystiolaeth i ymchwiliad Holyrood i’r modd y cafodd yr honiadau am Alex Salmond eu trin.

Mae John Swinney, dirprwy brif weinidog yr Alban, wedi cydnabod fod “amheuon” gan gyfreithwyr y llywodraeth ynglŷn â’r ffordd yr aethon nhw ati i ymchwilio i honiadau am y cyn-brif weinidog.

Mae e wedi cytuno i drosglwyddo cyngor cyfreithiol yn dilyn bygythiad o bleidlais o ddiffyg hyder yn ei erbyn.

Gwrthododd Nicola Sturgeon yr “awgrym hurt bod unrhyw un wedi gweithredu’n faleisus neu fel rhan o ymgyrch yn erbyn Alex Salmond”.

Ymddiheurodd Ms Sturgeon i’r cyhoedd a’r merched a gyflwynodd gwynion aflonyddu rhywiol am ei rhagflaenydd, gan ddweud bod “camgymeriad difrifol iawn” wedi bod yn ymchwiliad Llywodraeth yr Alban.

Cafodd yr ymchwiliad i Alex Salmond ei lansio ar ôl i nifer o ferched gyflwyno honiadau o aflonyddu rhywiol.

Ond arweiniodd adolygiad barnwrol llwyddiannus gan Alex Salmond at ddyfarnu’r ymchwiliad yn anghyfreithlon, gyda thaliad o £512,250 yn cael ei ddyfarnu iddo am ffioedd cyfreithiol.

Cafwyd Alex Salmond yn ddieuog o 13 cyhuddiad yn dilyn treial troseddol.

Tystiolaeth

Wrth drafod tystiolaeth Alex Salmond i’r pwyllgor, dywedodd Nicola Sturgeon “nad oes modd dadlau â’r ffaith ei fod wedi’i gael yn ddieuog gan reithgor”.

“Ond rwy’n gwybod, o’r hyn a ddywedodd wrthyf, nad oedd ei ymddygiad bob amser yn briodol,” meddai wedyn.

“Ac eto, ar draws chwe awr o dystiolaeth, doedd dim un gair o edifeirwch, myfyrdod na chydnabyddiaeth syml o hynny.”

Roedd y prif weinidog wedi honni’n wreiddiol iddi ddod yn ymwybodol o ymchwiliad Llywodraeth yr Alban i Alex Salmond am y tro cyntaf ar Ebrill 2, 2018.

Ond mi wnaeth hi gyfaddef yn ddiweddarach i gyfarfod ym mis Mawrth gyda chyn-bennaeth staff Alex Salmond.

Dywedodd fod cyn-bennaeth staff Alex Salmond, yn y cyfarfod ym mis Mawrth, “wedi nodi bod mater o aflonyddu wedi codi, ond o beth rwy’n cofio, gwnaeth hynny mewn termau cyffredinol”.

Dywedodd wrth y pwyllgor y byddai’n hoffi petai ei chofnod o’r cyfarfod yn “fwy trylwyr” ond fod “manylion y cwynion a gafodd eu rhoi i mi ar 2 Ebrill yn arwyddocaol ac yn frawychus”.

Gan ddisgrifio cyfarfod Ebrill 2 yn ei chartref gydag Alex Salmond, dywedodd ei fod wedi gwadu’r cwynion yn ei erbyn, ond ei fod wedi disgrifio’r digwyddiad a “dywedodd ei fod wedi ymddiheuro amdano ar y pryd”.

Mae Nicola Sturgeon yn wynebu galwadau gan Geidwadwyr yr Alban i ymddiswyddo ar ôl i ddau dyst gefnogi honiad Alex Salmond ei bod hi wedi camarwain y Senedd am gyfarfod gyda’i rhagflaenydd wrth roi tystiolaeth i’r pwyllgor.