Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod am fuddsoddi rhagor ym Maes Awyr Caerdydd a dileu gwerth miliynau o bunnoedd o ddyledion.
Cyhoeddodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, y cam fore heddiw mewn datganiad ysgrifenedig.
Llywodraeth Cymru sydd biau’r maes awyr, ac yn y datganiad ysgrifenedig mae’r gweinidog yn tynnu sylw at effaith “drychinebus” yr argyfwng Covid ar drafnidiaeth.
Bydd y Llywodraeth yn cynnig grant o hyd at £42.6 i’r maes awyr, ac mi fyddan nhw’n dileu £42.6m o ddyled y sefydliad.
Bydd gwerth ecwiti’r trethdalwr yn y maes awyr – hynny yw, gwerth cyfraddau yn y cwmni – yn cael ei leihau gan gyfanswm o £46.3 miliwn.
Yn ôl Ken Skates bydd y camau a gyhoeddwyd yn helpu “cynnal hyd at 5,200 o swyddi anuniongyrchol”.
Beth am fusnesau bach?
Mae Russell George, Aelod Ceidwadol o’r Senedd, wedi cwestiynu penderfyniad y Llywodraeth, gan eu cyhuddo o esgeuluso busnesau bach.
“Mae’r sector hedfan wedi cael ei heffeithio’n wael gan coronafeirws ac mae llywodraethau ledled y byd yn cefnogi’r diwydiant,” meddai.
“Fodd bynnag mae miloedd o fusnesau bach ledled Cymru yn galw mas am gefnogaeth, ac mi fyddan nhw’n siŵr o gwestiynu balans y gefnogaeth – a’r penderfyniad i ddileu miliynau o bunnoedd [o ddyled].
“Mae angen dybryd am gefnogaeth i fusnesau bach fel eu bod yn medru diogelu swyddi. Ond mae’n ymddangos bod gweinidogion Llafur â’u meddyliau ar helpu busnes y maen nhw’n berchen arno.”
‘Dim cymorth’ o Lundain
Yn ei ddatganiad mae Ken Skates yn beio Llywodraeth Geidwadol San Steffan am y sefyllfa anodd mae’r maes awyr ynddi.
“Rwy’n disgwyl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig adolygu ei pholisi Hedfanaeth i adlewyrchu’r sefyllfa eithriadol yr ydym ynddi ar hyn o bryd, ac i greu ac ariannu pecyn cymorth sylweddol sy’n gallu helpu gyda chostau rheoleiddiol ac ariannol meysydd awyr rhanbarthol hanfodol fel Caerdydd,” meddai.
“Fodd bynnag, er gwaethaf y galwadau hyn ar Lywodraeth y DU, nid yw Maes Awyr Caerdydd wedi cael unrhyw gymorth uniongyrchol gan Lywodraeth y DU i sicrhau ei hyfywedd yn y tymor canolig a’r hirdymor.
“Fel y cyfranddaliwr, ac yn cydnabod pwysigrwydd y seilwaith allweddol hwn, rydym wedi penderfynu cymryd camau pendant yn awr – byddai oedi yn golygu colli’r maes awyr a’n buddsoddiad cyfan.”