Mae sefydliad elusennol wedi croesawu pleidlais yn y Senedd fel “buddugoliaeth fawr” i hawliau plant yng Nghymru.

Brynhawn ddoe bu Aelodau o’r Senedd yn trafod ‘Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)’ yn ogystal â llu o welliannau a gynigwyd yn ymwneud â’r Gymraeg, technoleg, hanes ac eraill.

Yn y pendraw pasiwyd gwelliant gan y Llywodraeth a fydd yn golygu bod dyletswydd ar i ysgolion hybu dealltwriaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Hefyd mi wrthodwyd gwelliannau a fyddai, yng ngeiriau Humanitsts UK, wedi “peryglu” gallu plant i ddysgu am RSE (addysg perthnasau a rhywioldeb) ac RVE (addysg crefydd a gwerthoedd).

Mae Cydlynydd yr elusen yng Nghymru, Kathy Riddick wedi croesawu hyn oll.

“Buddugoliaeth fawr”

“Rydym wrth ein boddau bod y Senedd wedi cymryd cam o blaid hawliau plant, ac wedi gwrthod y gwelliannau ynghylch RSE ac RVE,” meddai.

“Maen nhw wedi pleidleisio tros roi dyletswydd i hybu gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

“Fel y dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, yn ystod y ddadl, enghreifftiau yw gwersi RSE ac RVE o ‘hawliau plant ar waith’. Mae’r Bil yn fuddugoliaeth fawr yn hyn o beth.”

Mae’r Bil yn symud ymlaen at gam bedwar (y cam terfynol), ac mi fydd pleidlais arall yn cael ei chynnal.

Os bydd yn pasio y tro hwnnw mi fydd yna yn derbyn cydsyniad brenhinol ac yn dod yn ddeddf.