Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi ennill y dydd i fwrw ymlaen a gweithredu rheoliadau llym newydd i daclo llygredd amaethyddol.
Mewn dadl danllyd yn y Senedd heddiw fe fynnodd y gwrthbleidiau y byddai’r rheoliadau yn ormodol ac yn gostus i ffermwyr eu gweithredu.
Mae’r mater wedi rhannu ffermwyr, pysgotwytr ac amgylcheddwyr a chreu rhaniadau gwleidyddol.
Ond, yn y diwedd, cafodd y cynnig gan Llyr Gruffydd AoS, ar ran Plaid Cymru, i ddiddymu’r mesurau ei wrthod gyda 27 o blaid y mesurau a 30 yn erbyn y cynnig.
Ni chafodd yr un pleidlais ei ymatal.
Mae’r Llywodraeth yn gobeithio cyflwyno eu mesuraua o fis Ebrill ymlaen.
Mae ffermwyr yn ofni y bydd y cynlluniau yn eu cyfyngu wrth wasgaru slyri a gwrtaith – ac yn rhy gostus.
Ond roedd pysgotwyr ac amgylcheddwyr yn daer fod gormod o lygredd yn difetha yr afonydd.
Bydd y rheolau yn cael eu cyflwyno’n raddol dros gyfnod o dair blynedd a hanner ac yn effeithio ar y ffermydd llaeth gan fwyaf.
Bydd angen i bob fferm wneud asesiadau risg o lygru a sicrhau bod cyfleusterau digonol i storio gwerth pum mis o slyri.
Hefyd byddai gwaharddiad ar wasgaru slyri o ddiwedd yr hydref am gyfnod o dri mis bob blwyddyn fydd o gymorth i gadw’r afonydd yn ddi-lygredd.
Yn ystod y ddadl, fe gyhuddodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Plaid Cymru a’r Torïaid o beidio â derbyn bod “angen gweithredu”.
Llŷr a Lesley’n anghydweld
Yn ystod ei chyfraniad hwythau cyfeiriodd Lesley Griffiths at ddadl a gynhaliwyd ar y mater – dan arweiniad y Ceidwadwyr – wythnos yn gynt.
“[Bryd hynny] doedd Plaid Cymru nac ychwaith y Torïaid yn medru derbyn yr angen am weithredu,” meddai.
“Mae hynny’n dangos jest pa mor wahanol mae eu safiad ar y mater i ddisgwyliad y cyhoedd.
“Byddai’n well ganddyn nhw anwybyddu cyngor gwyddonol a chaniatáu i Gymru ddod yn lloches olaf i lygredd amaethyddol.”
Wnaeth Llŷr Gruffydd ymateb i’r sylwadau rheiny â geiriau digon cryf.
“Mi wnes i gychwyn y ddadl yma trwy annog aelodau i gydnabod y ffaith nad oedd y cynnig yma yn rhyw fath o alwad i ni beidio gweithredu.
“A dyw’r cynnig yma yn sicr ddim yn alwad i ni beidio â chyflwyno rheoliadau ac i anwybyddu’r broblem.
“Yn anffodus mae sylwadau’r gweinidog wrth gloi’r ddadl yn dangos nad oedd hi wedi gwrando ar gair y ddwedes i. Ac mae hynny’n siom i fi. O’n i’n meddwl gwell ohoni a bod yn onest.
“Ac i daflu rhyw fath o honiadau o’r fath, i fy nghyfeiriad i sw i’n cymryd hynny yn insult difrifol. A dw i yn drist ei bod wedi teimlo bod angen gwneud hynny.”
Y dadleuon
Mae’r Aelod o’r Senedd yn pryderu bod rheolau yn rhy lawdrwm, ac y bydd ffermwyr yn cael eu gorfodi i lygru ar adegau er mwyn cwrdd â thargedau anhyblyg.
Dechreuodd Llŷr Gruffydd y ddadl trwy bwysleisio nad oedd ei blaid “o blaid y drefn sydd ohoni” ond ategodd bod y Llywodraeth “ddim yn cynnig yr ateb iawn” i’r broblem.
Mae’r AoS Plaid Cymru yn pryderu y bydd rheolau anhyblyg yn gorfodi ffermwyr i lygru, ac mae’n gofidio y bydd ffermydd bach ar eu colled am na fydd ganddynt yr adnoddau i addasu i’r newid.
Wrth ateb hynny dywedodd Lesley Griffiths bod llygredd amgylcheddol wedi bod yn “falltod ar enw da ffermio Cymru ers blynyddoedd lawer”, a phwysleisiodd yr angen am “degwch”.
“Rydym yn credu bod angen y rheoliadau llygredd amgylcheddol yma,” meddai, “ac mae hynny’n adlewyrchu ein hymrwymiad i degwch.
“Mater o degwch i genedlaethau’r dyfodol yw sicrhau na fyddan nhw’n cael eu hamddifadu o’r dreftadaeth naturiol y mae disgwyl i ni ei hamddiffyn,” meddai.
“Dyma fater o degwch i’r ffermwyr rheiny sydd eisoes yn mynnu gwell nag y mae’r rheoliadau presennol yn gofyn amdano. Nhw sydd yn rhoi enw da i’r sector.
“Dydy’r enw da yma erioed wedi bod mor bwysig nag y mae e’ nawr, er mwyn cwrdd â disgwyliadau ein partneriaid masnach rhyngwladol a chwsmeriaid y Deyrnas Unedig.
“Mae llygredd naturiol yn bygwth enw da ein treftadaeth naturiol.”