Mae ardaloedd gwledig Cymru a’r gorllewin wedi cael eu “hanwybyddu” gan Lywodraeth Llafur Cymru, yn ôl un o ymgeiswyr Plaid Cymru yn etholiad y Senedd.
Mae Cefin Campbell yn aelod o gabinet Cyngor Sir Gaerfyrddin, ac ef sydd yn gyfrifol am bortffolio ‘Materion Gwledig a Chymunedau’.
Eleni mi fydd yn sefyll tros y Blaid yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac yn etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.
O dreulio bron i ddegawd yn gynghorydd, a phedair blynedd yn aelod cabinet yn y sir wledig honno, mae wedi dod i’r casgliad bod cymunedau cefn gwlad wedi’u hesgeuluso.
“Dw i yn teimlo bod gorllewin Cymru, ac ardaloedd gwledig Cymru wedi cael eu hanwybyddu i bob pwrpas gan y Llywodraeth Lafur,” meddai wrth golwg360.
“A dw i’n meddwl bod angen rhoi ffocws clir – a dyma fyddai Plaid Cymru yn ei wneud – ar adfywio ein cymunedau gwledig. Dyw hyn ddim wedi cael ei wneud.
“Does dim strategaeth adfywio gwledig wedi cael ei llunio gan Lywodraeth Cymru ar ôl dros 20 mlynedd o fod mewn grym.
“Felly byddai hwnna’n rhywbeth allweddol, ac yn flaenoriaeth i fi [pe bawn yn dod yn AoS].
“Ac mi fyddai’r strategaeth honno gyda’r Gymraeg yn ganolog iddi yn edrych ar bethau fel adfywio economaidd, creu swyddi yng nghefn gwlad Cymru yn gyfan gwbl.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am Ymateb.
Pobol ifanc yn gadael y wlad
Mae hefyd yn pryderu’n fawr am y llif parhaus o bobol ifanc sydd yn gadael cefn gwlad, ac mae’n awgrymu bod gan y Llywodraeth rôl wrth ddelio â hyn.
“Y broblem fawr sydd gyda ni yw bod ein pobol ifanc ni yn gadael ein hardaloedd gwledig ni i chwilio am swyddi,” meddai.
“Felly mae eisiau trio cadw gymaint o’n pobol ifanc ni yng nghefn gwlad ag sy’n bosibl, a denu’r rhai sydd wedi symud bant nôl i fyw yma.
“Ond wrth gwrs mae’n rhaid i ni greu swyddi proffesiynol da yn y gorllewin er mwyn i hynny ddigwydd. Yr ail beth pwysig yw tai.
“Sicrhau bod tai fforddiadwy i bobol ifanc – i’w cadw yma ac i’w denu yn ôl. Gyda’r twf mewn tai haf, Air BnBs ac yn y blaen, mae mwy a mwy o bobol ifanc yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai.”
Rhestr letchwith?
Mae Cefin Campbell ar frig ei restr ranbarthol yntau, ac yn ail ar y rhestr mae Helen Mary Jones – yr AoS sydd yn cynrychioli’r sedd ar hyn o bryd.
Mi allech ddadlau bod hynny’n sefyllfa ddigon lletchwith, yn enwedig o ystyried bod AoSau rhanbarthol eraill y Blaid ar frig eu rhestrau hwythau – Llŷr Gruffydd a Delyth Jewell.
Yn ôl Cefin Campbell does dim drwgdeimlad na theimlad lletchwith am drefn y rhestr.
“Roedd nifer ohonom yn ymgeisio i fod ar frig y rhestr ranbarthol,” meddai.
“A dw i’n credu ein bod ni gyd yn ddigon aeddfed i sylweddoli mewn unrhyw gystadleuaeth wleidyddol mae yna rhai yn ennill, ac mae rhai yn colli.
“Ac rydym ni gyd wedi derbyn hynny yn urddasol iawn a dweud y gwir.
“A beth sydd yn bwysig yn awr yw ein bod ni gyd yn cydweithio a bod Helen Mary yn ennill yn Llanelli [y sedd etholaethol y bydd hi’n ei herio] a bod finnau’n mynd mewn i’r Senedd hefyd.”
Gallwch ddarllen portread o Cefin Campbell yn rhifyn yr wythnos hon o Golwg neu ar-lein ar Golwg+.