Sturgeon yn mynnu na wnaeth gynllwynio yn erbyn Salmond

“Roedd yr hyn a ddisgrifiodd yn ymddygiad amhriodol iawn yn fy marn i, efallai’n rheswm pam bod yr eiliad honno wedi’i gwreiddio yn fy meddwl”

Mae Prif Weinidog yr Alban wedi wfftio’r awgrymiadau ei bod hi wedi cynllwynio yn erbyn ei rhagflaenydd, Alex Salmond.

Daw hyn wrth i Nicola Sturgeon roi tystiolaeth i ymchwiliad Holyrood i’r modd y cafodd yr honiadau am Alex Salmond eu trin.

“Mae’r awgrym bod unrhyw un wedi cynllwynio yn erbyn Alex Salond yn hurt,” meddai Nicola Sturgeon.

“Does dim byd gan y Llywodraeth i’w guddio.”

Mae Nicola Sturgeon yn wynebu galwadau gan Geidwadwyr yr Alban i ymddiswyddo ar ôl i ddau dyst gefnogi honiad Alex Salmond ei bod hi wedi camarwain y Senedd am gyfarfod gyda’i rhagflaenydd wrth roi tystiolaeth i’r pwyllgor.

‘Camgymeriad difrifol iawn’

Ymddiheurodd i’r cyhoedd a’r menywod a gyflwynodd gwynion o aflonyddu rhywiol am Alex Salmond, gan ddweud bod “camgymeriad difrifol iawn” wedi bod yn ymchwiliad Llywodraeth yr Alban.

Lansiwyd yr ymchwiliad ar ôl i nifer o fenywod gyflwyno honiadau o aflonyddu rhywiol gan y cyn-Brif Weinidog.

Ond arweiniodd adolygiad barnwrol llwyddiannus gan Alex Salmond at ddyfarnu’r ymchwiliad yn anghyfreithlon, gyda thaliad o £512,250 yn cael ei ddyfarnu iddo am ffioedd cyfreithiol.

Cafwyd Alex Salmond yn ddieuog o 13 cyhuddiad yn dilyn treial troseddol.

Mynnodd Nicola Sturgeon bod Llywodraeth yr Alban wedi ymchwilio i’r cwynion, gan ddweud “na ddylai proffil, statws neu gysylltiadau unigolyn arwain at anwybyddu cwynion o’r math hwn”.

Alex Salmond

Ymddygiad amhriodol

Wrth drafod tystiolaeth Alex Salmond i’r pwyllgor, dywedodd Nicola Sturgeon “nad oes modd dadlau â’r ffaith ei fod wedi’i gael yn ddieuog gan reithgor”.

“Ond rwy’n gwybod, o’r hyn a ddywedodd wrthyf, nad oedd ei ymddygiad bob amser yn briodol,” meddai wedyn.

“Ac eto, ar draws chwe awr o dystiolaeth, doedd dim un gair o edifeirwch, myfyrdod na chydnabyddiaeth syml o hynny.”

Roedd y prif weinidog wedi honni’n wreiddiol iddi ddod yn ymwybodol o ymchwiliad Llywodraeth yr Alban i Alex Salmond am y tro cyntaf ar Ebrill 2, 2018.

Ond mi wnaeth hi gyfaddef yn ddiweddarach i gyfarfod ym mis Mawrth gyda chyn-bennaeth staff Alex Salmond.

Dywedodd fod cyn-bennaeth staff Alex Salmond, yn y cyfarfod ym mis Mawrth, “wedi nodi bod mater o aflonyddu wedi codi, ond o beth rwy’n cofio, gwnaeth hynny mewn termau cyffredinol”.

Dywedodd wrth y pwyllgor y byddai’n hoffi petai ei chofnod o’r cyfarfod yn “fwy trylwyr” ond fod “manylion y cwynion a gafodd eu rhoi i mi ar Ebrill 2 yn arwyddocaol ac yn frawychus”.

Gan ddisgrifio cyfarfod Ebrill 2 yn ei chartref gydag Alex Salmond, dywedodd ei fod wedi gwadu’r cwynion yn ei erbyn, ond ei fod wedi disgrifio’r digwyddiad a “dywedodd ei fod wedi ymddiheuro amdano ar y pryd”.

“Roedd yr hyn a ddisgrifiodd yn ymddygiad amhriodol iawn yn fy marn i, efallai’n rheswm pam bod yr eiliad honno wedi’i gwreiddio yn fy meddwl.”

Pwysleisiodd Nicola Sturgeon ei bod bob amser wedi gweithredu’n “briodol ac yn briodol” ac nad oedd “unrhyw fwriad” gan Lywodraeth yr Alban i atal gwybodaeth gan y pwyllgor.

Holwyd y Prif Weinidog am honiad bod uwch aelod o’i thîm wedi datgelu enw un o’r menywod gyn-bennaeth staff Alex Salmond a’i drosglwyddodd i Alex Salmond – gwadodd Nicola Sturgeon yr honiad.

Holwyd y Prif Weinidog hefyd am ddatgelu’r ymchwiliad i bapur newydd y Daily Record a dorrodd y newyddion am yr honiadau – gwadodd Nicola Sturgeon fod y wybodaeth wedi dod o’i swyddfa hi.

Alex Salmond a Nicola Sturgeon gyda dogfennau lansio'r 'Sgwrs Genedlaethol'

Alex Salmond yn cyhuddo Nicola Sturgeon o fethu ag arwain yr Alban

“Nid yw’r Alban wedi methu, mae ei harweinyddiaeth wedi methu,” meddai Alex Salmond
Alex Salmond a Nicola Sturgeon gyda dogfennau lansio'r 'Sgwrs Genedlaethol'

Thebcam – trasiedi newydd yr Alban?

Dylan Iorwerth

Dylan Iorwerth yn ystyried Salmond v Sturgeon

← Stori flaenorol

“Mae hwn yn dymor sy’n gaddo mynd at yr wythnos ola’”

Alun Rhys Chivers

Mae Uwchgynghrair Cymru yn ôl! Sgwrs gydag Owain Tudur Jones cyn gemau’r penwythnos

Stori nesaf →

Cynnig Plaid Cymru i ddiddymu mesurau llygredd amaethyddol yn methu

Llywodraeth Llafur yn ennill y dydd mewn pleidlais agos wedi dadl danllyd

Hefyd →

Sgandal Swyddfa’r Post: Cyflwyno deddfwriaeth i wrthdroi euogfarnau anghyfiawn

Y gobaith yw y bydd y ddeddfwriaeth yn derbyn cydsyniad brenhinol ac yn dod yn gyfraith erbyn yr haf