Fe allai cannoedd ar filoedd o farwolaethau Covid-19 fod wedi’u hosgoi petai camau wedi’u cymryd i fynd i’r afael a’r epidemig gordewdra, yn ôl adroddiad newydd.

Mae gordewdra wedi cael ei gysylltu gyda risg uwch o ddioddef salwch difrifol neu farwolaeth yn sgil Covid-19.

Mae adroddiad Ffederasiwn Gordewdra’r Byd yn honni bod tua naw o bob 10 o farwolaethau Covid-19 wedi digwydd mewn gwledydd sydd a chyfraddau uchel o ordewdra.

Mae hynny’n cynnwys y Deyrnas Unedig, sydd a’r trydydd gyfradd uchaf o farwolaethau Covid yn y byd a’r pedwerydd gyfradd uchaf o ordewdra.

‘Rhybudd’

Mae’r adroddiad wedi astudio cyfraddau gordewdra mewn gwledydd ar draws y byd yn ogystal â marwolaethau Covid-19, ac mae’n dweud bod y gyfradd farwolaeth 10 gwaith yn uwch mewn gwledydd lle mae 50% neu fwy o’r boblogaidd yn ordew.

Ychwanegodd yr adroddiad nad oedd y gyfradd farwolaethau mor uchel mewn gwledydd sydd â lefelau is o ordewdra, fel Japan a De Corea.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi dweud y dylai’r adroddiad fod yn rhybudd i lywodraethau yn rhyngwladol i fynd i’r afael a phroblemau gordewdra.

Mae adroddiad Ffederasiwn Gordewdra’r Byd yn cyhuddo llywodraethau o “anwybyddu gwerth economaidd cael poblogaeth iach” ac o fethu a mynd i’r afael a gordewdra dros y degawdau diwethaf.