Fe fydd Amazon yn agor ei siop fwyd gyntaf yn y Deyrnas Unedig lle does dim rhaid i gwsmeriaid giwio wrth y til.

Fe fydd y cwmni yn lansio’r cyntaf o siopau Amazon Fresh yn Llundain heddiw (Mawrth 4).

Bydd cwsmeriaid yn y siopau yn gallu cymryd nwyddau a cherdded allan heb yr angen i fynd at y til.

Mae modd i siopwyr sganio cod ar eu ffordd i mewn i’r siop, gyda chamerâu a thechnoleg yn adnabod yr eitemau mae siopwyr yn cymryd oddi ar y silffoedd.

Fe fyddan nhw wedyn yn talu am y nwyddau drwy ap Amazon ar eu ffonau symudol.

Maen nhw’n debyg i’r 20 o siopau Amazon Go sydd gan y cwmni yn yr Unol Daleithiau ond mi fyddan nhw’n defnyddio’r brand Fresh ar gyfer y siopau yn y DU.

Yn ôl Amazon, y siop yn Ealing Broadway fydd y gyntaf o nifer o siopau mae’r cwmni’n bwriadu agor yn Llundain.

Y bwriad, meddai Amazon, yw gwneud siopa “mor gyfleus â phosib” i gwsmeriaid.