Mae disgwyl y bydd 20,000 o bobl yn cael eu brechu gyda’r dos cyntaf o’r brechlyn Covid, a 10,000 yn cael ail ddos, bob dydd o’r wythnos nesaf ymlaen, fel rhan o raglen frechu Cymru.
Daw hyn yn dilyn cyfnod o arafu dros y pythefnos diwethaf oherwydd gostyngiad yng nghyflenwad y brechlyn AstraZeneca.
Yn ôl ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru mae 942,017 o bobol yng Nghymru wedi derbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn a 124,781 o bobol wedi derbyn yr ail ddos.
Golyga hyn bod Cymru bellach dros hanner ffordd drwy’r gwaith o ddiogelu pawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9.
Agor mwy o ganolfannau brechu
Yn ôl Andrew Evans, Prif Swyddog Fferyllol Cymru, gallai’r cynnydd arwain at agor mwy o ganolfannau brechu a nifer cynyddol o feddygfeydd a fferyllfeydd yn brechu pobol.
“Mae capasiti o fewn ein rhaglen frechu i fynd mor gyflym ag y mae cyflenwadau’n caniatáu,” meddai wrth BBC Cymru.
“Mae wedi bod yn isel dros yr wythnosau diwethaf ond mae’n sylweddol uwch yr wythnos hon – rhwng 150,000 a 160,000 dos – yr wythnos nesaf gallem fod yn ôl hyd at fwy na 200,000 – capasiti rydyn ni’n gwybod sydd gan raglen frechu’r GIG yma.
“Rydym eisoes wedi bod yn adeiladu’r seilwaith brechu gydag o leiaf 500 o leoliadau’n cael eu defnyddio ar unrhyw un adeg, ac mae argaeledd cynyddol yr AstraZeneca yn golygu mwy o hyblygrwydd sy’n ein galluogi i’w ddefnyddio mewn mwy o lefydd.
“Os yw cyflenwadau’n caniatáu, ry’n ni’n hyderus y gellir cyflawni’r cerrig milltir rydym wedi’u nodi – a phwy a ŵyr, os yw cyflenwadau’n mynd y tu hwnt i hynny, yna efallai y gallwn wneud yn well na hynny.”
Pobol 40-49 oed fydd y nesaf i dderbyn y brechlyn, ar ôl i gynghorwyr y Llywodraeth ddod i’r casgliad mai brechu yn nhrefn oedran yw’r ffordd gyflymaf o hyd o leihau nifer y marwolaethau.
Fis Chwefror cafodd targedau brechu Llywodraeth Cymru eu diweddaru:
- Bydd y brechlyn yn cael ei gynnig i bob grŵp blaenoriaeth presennol erbyn canol mis Ebrill
- Bydd y brechlyn yn cael ei gynnig i’r boblogaeth ehangach sy’n oedolion erbyn diwedd mis Gorffennaf
Ffigurau diweddaraf
Ddoe (Mawrth 3) cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru 12 yn rhagor o farwolaethau’n ymwneud â Covid-19.
Mae’n golygu bod 5,356 o bobol bellach wedi marw ar ôl cael prawf positif am coronafeirws yng Nghymru.
Mae 208 o achosion newydd hefyd wedi eu cadarnhau gan fynd a’r cyfanswm i 204,196 ers dechrau’r pandemig.