Mae undeb ffermwyr wedi cynnig beirniadaeth hallt o Lywodraeth Cymru yn dilyn ymgais aflwyddiannus i ddryllio cynlluniau llygredd.
O fis Ebrill ymlaen, mae’r Llywodraeth yn gobeithio cyfyngu ar y defnydd o slyri a gwrtaith ledled y wlad, mewn ymdrech i leihau llygredd.
Ond mae yna wrthwynebiad at y cynlluniau ymhlith y gymuned amaethyddol, a brynhawn ddoe cynhaliwyd dadl ynghylch y mater.
Methodd yr ymgais hwnnw i wrthdroi’r rheoliadau, a bellach mae undeb NFU Cymru wedi ymateb i hynny.
Mae’n “glir” medden nhw nad oedd y Llywodraeth “erioed yn awyddus i gydweithio” tros y mater, ac mae eu Llywydd wedi dweud bod yn “rhaid i ni ddal ati i herio’r mater yma”.
“Diolch i’r Aelodau rheiny o’r Senedd a safodd cornel Cymru wledig heddiw, trwy bleidleisio tros ddryllio’r rheoliadau yma,” meddai John Davies.
“Mae’r Aelodau yma, fel NFU Cymru, yn credu bod yna ffordd well o amddiffyn a gwella ansawdd dŵr yng Nghymru.
“Dw i’n hynod siomedig bod Llywodraeth Cymru, â’r pandemig byd eang ar ei hanterth, wedi bwrw ati i gopïo rheoliadau o’r Undeb Ewropeaidd – rheoliadau aneffeithiol, a fu’n destun cryn feirniadaeth.”
Mae’r undeb bellach wedi galw ar eu tîm cyfreithiol i “ystyried her gyfreithiol bosib yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r rheoliadau”.
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Cyflwyno’r rheoliadau newydd yw’r peth cywir i’w wneud er mwyn atal llygredd rhag effeithio ar ein dŵr, oherwydd ymarferion amaethyddol gwael,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Bydd y rheoliadau newydd yn helpu amddiffyn enw’r sector amaethyddol o ran yr amgylchedd, a hefyd yn amddiffyn yr amgylchedd am genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.”
Y rheolau a’r gwrthwynebiad
Bydd y newidiadau yn cael eu cyflwyno yn raddol dros dair blynedd a hanner, ac mae disgwyl y bydd hyn yn effeithio ffermydd da godro yn bennaf.
Dan y drefn newydd, bydd ffermwyr yn cael eu rhwystro rhag rhoi slyri ar eu caeau am dri mis y flwyddyn – o ddiwedd hydref ymlaen – er mwyn osgoi’r misoedd gwlypaf.
Mae ffermwyr yn dadlau y gallai’r rheol hon waethygu’r sefyllfa, oherwydd bydd rhai yn diweddu fyny yn gwaredu cyflenwadau, munud olaf, cyn i’r cyfyngiadau tymhorol ddod i rym.
Cafodd dadl arall ei chynnal am y mater hwn fis diwethaf. Y Ceidwadwyr wnaeth arwain y ddadl bryd hynny.