Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y bobl ifanc sydd ddim mewn addysg, swydd neu hyfforddiant, yn ôl ffigurau newydd.

Dyma’r cynnydd chwarterol mwyaf ers bron i ddegawd, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Amcangyfrifir bod tua 797,000 o bobl ifanc sydd ddim mewn addysg, swydd neu hyfforddiant (Neet) yn chwarter olaf 2020, cynnydd o 39,000 o’i gymharu â mis Gorffennaf hyd at fis Medi’r llynedd, a chynnydd o 34,000 o’i gymharu â’r ffigwr rhwng mis Hydref a Rhagfyr 2019.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol y cynnydd chwarterol diweddaraf oedd y mwyaf ers mis Gorffennaf hyd fis Medi yn 2011, a hynny’n bennaf oherwydd nifer y dynion sy’n economaidd anweithgar.

Dywedodd David Freeman o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol bod y cynnydd yn dilyn “effaith economaidd y cyfyngiadau Covid-19 diweddaraf “ a bod data yn awgrymu mai pobl o dan 25 oed sydd wedi’u heffeithio fwyaf.

Ychwanegodd bod 11.6% o bobl rhwng 16-24 oed yn y Deyrnas Unedig yn cael eu hystyried yn Neet yn y tri mis diweddaraf – cynnydd o 0.6% o’i gymharu â mis Gorffennaf hyd at fis Medi.

Roedd dau o bob pump yn ddi-waith neu’n chwilio am waith tra bod y gweddill yn cael eu hystyried yn economaidd anweithgar.