Mae’r rhybudd bod y sefyllfa yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, “yn parhau i fod yn ddifrifol iawn” meddai Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Arfon.

Daw hyn ar ôl i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr gyhoeddi y byddai llawdriniaethau y bwriadwyd eu cynnal yn cael eu gohirio.

Roedd hyn er mwyn cynyddu capasiti wedi i glwstwr newydd o Covid-19 effeithio pump o wardiau’r ysbyty, gan olygu eu bod yn trin mwy o gleifion Covid nag ar unrhyw adeg arall yn ystod y pandemig.

Roedd nifer yr achosion wedi gostwng i 39 erbyn dydd Mercher (Chwefror 3).

“Mae’r sefyllfa yn Ysbyty Gwynedd yn parhau i fod yn ddifrifol iawn ac rwy’n meddwl am yr holl deuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio gan yr achosion a’r holl staff sy’n gwneud eu gorau glas i ddarparu’r gofal angenrheidiol o dan amgylchiadau mor heriol,” meddai Siân Gwenllian.

“Rwyf hefyd yn cydymdeimlo’n fawr â phawb y mae eu triniaethau neu apwyntiadau wedi’u canslo, ac sy’n dioddef o’r herwydd.

“Mae’n galonogol cael ar ddeall bod y bwrdd iechyd yn hyderus na fydd y mesurau sydd ar waith yn peri risg sylweddol i’r cyfraddau heintio yn ein cymunedau lleol.”

“Rwy’n ceisio sicrwydd yn rheolaidd eu bod yn ymateb yn gadarn i’r heriau.

“Byddaf yn parhau i graffu ar eu gwaith mewn modd effeithiol ac os ydych yn dymuno imi godi unrhyw bryderon penodol, cysylltwch â mi.”

Cynyddu capasiti Ysbyty Gwynedd drwy ohirio llawdriniaethau dewisol

Bydd llawdriniaethau brys ac apwyntiadau cleifion allanol yn parhau

Nifer o achosion Covid yn Ysbyty Gwynedd wedi gostwng

“Rydym yn hyderus bod gennym y mesurau ar waith i sicrhau na fydd y digwyddiad hwn yn risg gynyddol sylweddol”