Ddechrau’r wythnos – a hithau yn Ddydd Gŵyl Dewi – roedd Prif Gwnstabl Heddlu Cleveland yn cyhoeddi blog dwyieithog yn galw am gyflogi mwy o Gymry Cymraeg yn ein gwasanaethau cyhoeddus.
Mae Richard Lewis yn Gymro Cymraeg a gafodd ei fagu ym mhentref bach Meinciau yng Nghwm Gwendraeth, Sir Gaerfyrddin, sydd wedi llwyddo i esgyn i lefelau ucha’r heddlu mewn llai nag ugain mlynedd.
Ymunodd â Heddlu Dyfed-Powys yn y flwyddyn 2000, gan fynd o fod yn gwnstabl cyffredin i swydd Dirprwy Brif Gwnstabl yno, cyn gadael y llu yn 2019 i ddod yn Brif Gwnstabl Cleveland.
Dyma heddlu sy’n gwasanaethu dros hanner miliwn o bobol mewn trefi mawr ôl-ddiwydiannol megis Middlesbrough a Hartlepool yng ngogledd-ddwyrain Lloegr.
A thra bo’r Cymro yn dweud bod cyffuriau yn “broblem enfawr” yn yr ardaloedd hyn, mae hefyd yn pwysleisio bod “croeso aruthrol i siaradwyr Cymraeg” sy’n gwneud iddo “deimlo’n gartrefol – er gwaetha’r problemau”.
Ond nid plismona oedd joban gynta’ Richard Lewis.
Fe astudiodd Ddaearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn mynd i ddysgu’r pwnc hwnnw yn Ysgol Uwchradd Aberteifi.
Ac wedi dwy flynedd o ddysgu fe benderfynodd, yn 25 oed, y byddai yn dilyn ôl troed ei dad, a oedd yn Arolygydd gyda Heddlu Dyfed-Powys.
Ar wahân i’r dylanwad teuluol, pam gadael y dosbarth a throi at blismona?
“Roeddwn i moyn swydd ble’r oeddwn i yn gwneud rhywbeth gwahanol bob dydd,” eglura Richard Lewis.
“Felly roedd amrywiaeth yn y gwaith, ac roeddwn i yn teimlo bo fi moyn bod yn fwy o ran o’r gymuned ble’r oeddwn i yn gweithio…
“Roedd y plant yn mynd adref diwedd y dydd [o’r ysgol], a doeddwn i ddim yn gwybod dim byd am eu bywydau nhw… ac fel yna mae hi i fod wrth gwrs!
“Ond roeddwn i’n teimlo y byddwn i yn gallu bod yn fwy effeithiol, yn gweithio yn y sector gyhoeddus, os byswn i yn gweithio yn y gymuned…
“Ac roeddwn i wedi mwynhau bod yn fyfyriwr yn Aberystwyth, ac yn meddwl y bydde fe’n neis ymuno â’r heddlu ac efallai mynd i Aberystwyth.
“A dyna beth ges i. Breuddwyd, a bod yn onest. Ffodus iawn.”
Ar ôl cyfnod yn plismona tref Aberystwyth fe drodd am Aberaeron.
“Lle godidog i blismona. Ar lan y môr, tref hyfryd, ac annibyniaeth i weithio gyda thîm bach.
“Rwy’n credu mai yn Aberaeron wnes i wir ddysgu sut i fod yn heddwas… mae yn hanfodol bod yr heddlu yn rhan o’r gymuned a bod ni’n deall y gymuned.
“Ac roeddwn i yn gweld bod y gallu i siarad Cymraeg, mewn ardal ble mae llawer yn siarad Cymraeg, yn hwyluso’r gwaith yn fawr iawn.”
Talcen caled yn Cleveland
O fewn misoedd i Richard Lewis lanio yn Lloegr ym mis Ebrill 2019, fe gafodd Heddlu Cleveland ei roi mewn ‘mesurau arbennig’ wrth i adroddiad gan Arolygwyr Heddlu Ei Mawrhydi gasglu bod y llu yn methu atal troseddu, amddiffyn y cyhoedd, dal dihirod, na delio gyda heddlu llwgr.
Roedd y ffaeleddau hyn wedi bod yn frith am flynyddoedd cyn i Richard Lewis gael ei benodi.
Ac yntau wedi bod yn Brif Gopyn yno ers bron i ddwy flynedd bellach, mae yn dweud ei fod yn wynebu talcen caled o hyd ac yn aml yn gweithio tan ddeg y nos.
“Beth sydd gyda ni fan hyn yw ardaloedd trefol a chyffuriau yn broblem enfawr, enfawr – i gymharu gydag unrhyw lu yng Nghymru,” meddai.
“Felly roedd yna gyfle [wrth symud i Cleveland] i brofi ffordd wahanol o blismona… y swydd yw gwneud yn siŵr bod gwelliannau yn cael eu gwneud, achos maen nhw wedi cael amser caled tros y blynyddoedd.”
Pam cymryd swydd mor heriol mewn ardal anodd, ag yntau yn Ddirprwy Brif Gwnstabl yn un o ardaloedd hyfryta’ Cymru?
“Methu troi ffwrdd o sialens,” meddai Richard Lewis ar ei ben.
“Des i lan i weld y lle, ac mae un dref yn debyg iawn i’r dref lle ges i fy magu.
“Es i i Ysgol y Strade yn Llanelli, ac roeddwn i’n gweld bod Redcar yn debyg ofnadwy i’r ardal honno – ôl-ddiwydiannol, y gwaith dur wedi cau.
“Roedd e’n teimlo yn debyg i Lanelli. Ac roeddwn i’n teimlo yn gartrefol iawn yn nhref Redcar.
“Ac felly, er bod y problemau di-rif i’w cael yma, roedd yna rywbeth cartrefol yn yr ardal hefyd.
“A chroeso aruthrol i siaradwyr Cymraeg.
“Doeddwn i heb ddeall, cyn dod yma, pwy mor agored yw pobol Lloegr – yn enwedig yn y gogledd, falle – i glywed am y diwylliant gwahanol yma sydd ganddo ni yng Nghymru.
“A dw i wedi teimlo, ers dechrau yma, bod yna ddyletswydd arna i i addysgu pobol yn yr ardal hon ynglŷn â Chymru a’r iaith Gymraeg.
“D’yw pobol ddim yn credu bod yna gymaint o siaradwyr Cymraeg i gael… mae pobol methu credu bod yna darged i gael miliwn o siaradwyr.
“Rydw i wrthi, bob dydd bron a bod, yn siarad ynglŷn â Chymru!”
Tra bod Richard Lewis draw ar arfordir gogledd-ddwyrain Lloegr, mae ei wraig a’i blant adref ar yr aelwyd yn Aberaeron.
“Mae wedi bod yn anodd wrth gwrs,” meddai’r Prif Gopyn.
“Ond rydw i wedi bod mor brysur yn y gwaith, fydde fe wedi bod yn fwy anodd cael y teulu lan yma.
“Achos dw i yn gweithio oriau di-rif, saith diwrnod yr wythnos.
“A bydden i yn teimlo yn euog ofnadwy i weld y teulu adref yn y tŷ, yn adnabod neb yn y gogledd-ddwyrain, a fi wrthi yn y gwaith tan ddeg o’r gloch bob nos.”
Llofruddiaeth yn Los Angeles
Ddegawd yn ôl, yn rhan o’i siwrne i’r top, fe enillodd Richard Lewis ysgoloriaeth i fynd i astudio dulliau plismona – a’r defnydd o ddrylliau taser yn benodol – yn America.
“Bues i’n gweithio yn Efrog Newydd, byw yn Manhattan.
“Gweithio yn Brooklyn – agoriad llygad!
“Gweld tlodi mewn dinas fawr sy’n debyg iawn i Lundain mewn sawl ffordd.
“A gweld dull gwahanol o blismona i’r un yr oeddwn i’n gyfarwydd â mewn cymunedau bach yn Dyfed-Powys…
“Wnes i weithio a theithio dros 21 o daleithiau yn America… fues i yn Seattle, Los Angeles, sawl lle…
“Bues i lofruddiaeth yn South Central yn Los Angeles, ac roeddwn i gyda’r cyntaf i gyrraedd y maes parcio lle’r oedd rywun wedi ei saethu.
“Roedd South Central yn le hostile iawn i fod yn blismon…
“A beth weles i yn y projects yn Brooklyn oedd sut oedd pobol yn byw… anghredadwy.
“Ac roedd y raddfa yn hollol wahanol. Cyffuriau yn broblem fawr… tlodi, pobol yn cario arfau, a’r dull plismona yn llawer fwy ar y droed flaen.”