Rwy’n dal ati, er lles darllenwyr brwd Golwg, i chwilio drwy amserlen Radio Cymru er mwyn dod o hyd i raglenni sydd heb fod yn llawn chat diddiwedd, cerddoriaeth ysgafn, na newyddion.

Braf, felly, oedd dod o hyd i’r Oedfa ddydd Sul. Rhywbeth ychydig yn wahanol. Rhaglen gyda ffocws penodol. Rhywbeth i’w roi yn eich dyddiadur fel rhywbeth i’w fwynhau.